Pum newid ar gyfer y frwydr yng Nghaeredin

Rob Lloyd Newyddion

Mae’r prif hyfforddwr Glenn Delaney wedi penderfynu ar bum newid i’w ochr i chwarae’r gêm hanfodol Cynhadledd B Guinness PRO14 yn erbyn Caeredin dydd Sadwrn (12:00 Premier Sports).

Tri o’r newidiadau oherwydd anaf, wrth i Ryan Elias a Jake Ball dychwelyd i garfan Cymru wythnos hon.

Gan fod Ryan Conbeer wedi anafu’i bigwrn yng ngêm wythnos diwethaf yn erbyn Benetton, Tom Prydie sydd yn llenwi’r bwlch ar yr asgell dde.

Dan Jones sydd yn dychwelyd i safle’r maswr ar ôl i Sam Costelow pigo fyny anaf, a fydd Jones yn bartner i Blacker ar y cae.

Dau newid sydd i’r rheng flaen gyda’r bachwr Marc Jones a’r prop pen tynn Pieter Scholtz yn llenwi safeloedd Elias a Javan Sebastian, a wnaeth anafu ei gefn yn ystod gêm Benetton.

Yn yr ail reng, mae Sam Lousi a Morgan Jones, tra bod Uzair Cassiem, Jac Morgan a Sione Kalamafoni yn parhau yn y rheng ôl.

Ar y fainc mae Taylor Davies, Kemsley Mathias, Alex Jeffries – a fydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y PRO14 i’r Scarlets – Tevita Ratuva a Angus O’Brien.

Prif hyfforddwr Glenn Delaney

“Cawsom wythnos bositif iawn yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Benetton, ond rydym yn ymwybodol o’r sialens ar ddydd Sadwrn. Maent yn dîm cryf, corfforol; mae eu gêm wedi’i seilio ar eu safle gosod a chicio tactegol ac yn gallu chwarae’r agweddau hynny’n dda.

“Cawsom gêm 6-3 wlyb iawn yma yn gynharach yn y flwyddyn, gyda cherdyn coch a wnaeth gweithio yn ein herbyn, ond fe ddaethon nhw i mewn i’r gêm ar gefn rhyw chwe cholled a llwyddo i droi ni drosodd. Dw i ddim yn credu eu bod nhw’n ofni chwarae ni, ac mae rhaid i ni dderbyn hynny a newid eu meddyliau ar y cae. Gan edrych ar ein pool, mae’r gêm yma yn bwysig iawn (am safle yng Nghwpan y Pencampwyr). Mae rhaid i ni gymryd cam ymlaen ar y penwythnos yn erbyn tîm sydd yn barod i chwarae.”

Caeredin v Scarlets (BT Murrayfield 12:00, Premier Sports)

15 Johnny McNicholl; 14 Tom Prydie, 13 Tyler Morgan, 12 Steff Hughes (capt), 11 Steff Evans; 10 Dan Jones, 9 Dane Blacker; 1 Phil Price, 2 Marc Jones, 3 Pieter Scholtz, 4 Morgan Jones, 5 Sam Lousi, 6 Uzair Cassiem, 7 Jac Morgan, 8 Sione Kalamafoni.

Eilyddion: 16 Taylor Davies, 17 Kemsley Mathias, 18 Alex Jeffries, 19 Tevita Ratuva, 20 Ed Kennedy, 21 Will Homer, 22 Angus O’Brien, 23 Paul Asquith.

Ddim ar gael oherwydd anaf

Josh Macleod (Achilles), Blade Thomson (concussion), Lewis Rawlins (neck), Tomi Lewis (knee), Samson Lee (concussion), Tom Rogers (knee), Rob Evans (concussion), James Davies (concussion), Javan Sebastian (back), Sam Costelow (ankle), Ryan Conbeer (ankle), Aaron Shingler, Rhys Patchell.

Ddim ar gael oherwydd dyletswyddau rhyngwladol

Ken Owens, Wyn Jones, Kieran Hardy, Jake Ball, Ryan Elias, Gareth Davies, Jonathan Davies, Johnny Williams, Liam Williams, Leigh Halfpenny.