Pum newid i wynebu’r Gleision

Gwenan Newyddion

Pum newid i’r tîm sy’n dechrau yn erbyn y Gleision yng ngêm Cwpan yr Enfys Guinness PRO14 ar ddydd Sadwrn ym Mharc y Scarlets (15:00; Premier Sports)

Mae’r prif hyfforddwr Dai Flanagan wedi aildrefnu’r ochr, gan roi cyfleoedd i’r canolwr Ioan Nicholas a’r clo Josh Helps.

Dyma fydd ymddangosiad cyntaf Nicholas sy’n 23 oed, yn y PRO14 ers mis Hydref 2019 wrth iddo gael ei rhwystro gydag anaf yn ystod y tymor yma. Mae Helps yn dod i mewn i’r XV am y tro cyntaf ers mis Tachwedd.

Un newid sydd ymysg y llinell gefn gyda Johnny McNicholl yn cymryd lle Steff Evans ar yr asgell chwith. Yr unig newid arall sydd tu ôl i’r sgrym yw Ioan Nicholas sydd mewn yn lle Tyler Morgan a fydd yn bartner gyda Jonathan Davies yng nghanol cae. Bydd Angus O’Brien a Kieran Hardy yn parhau fel yr haneri.

Yn y rheng flaen mae Ryan Elias yn cymryd safle Ken Owens ac yn cymryd rôl fel capten ar ôl arwain y tîm am y tro cyntaf yn ystod y rownd agoriadol yn erbyn y Dreigiau. Bydd Ryan rhwng Rob Evans Alex Jeffries, yr unig chwaraewr i groesi’r llinell yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn y Gweilch penwythnos diwethaf.

Helps a Lewis Rawlins bydd y cyfuniad yn yr ail reng, wrth i anafiadau i Blade Thomson a Uzair Cassiem rhoi cyfle i Ed Kennedy a fydd yn chwarae yn safle’r wythwr. Kennedy, Aaron Shingler a Jac Morgan fydd ein rheng ôl.

Mae dau o Lewod 2021 Warren Gatland wedi’u cynnwys ar y fainc trwy Ken Owens a Gareth Davies. Steff Thomas, Javan Sebastian, Morgan Jones, Iestyn Rees, Dan Jones a Joe Roberts fydd yn cwblhau’r eilyddion ar y fainc.

Mae gan y Scarlets a’r Gleision buddugoliaeth yr un yn dilyn y ddau rownd o Gwpan yr Enfys.

Scarlets v Gleision Caerdydd (Cwpan yr Enfys Guinness PRO14; Parc y Scarlets, Sad, Mai 15, 15:00 Premier Sports)

15 Leigh Halfpenny; 14 Tom Rogers, 13 Jonathan Davies, 12 Ioan Nicholas, 11 Johnny McNicholl; 10 Angus O’Brien, 9 Kieran Hardy; 1 Rob Evans, 2 Ryan Elias (capt), 3 Alex Jeffries, 4 Josh Helps, 5 Lewis Rawlins, 6 Aaron Shingler, 7 Jac Morgan, 8 Ed Kennedy.

Reps: 16 Ken Owens, 17 Steff Thomas, 18 Javan Sebastian, 19 Morgan Jones, 20 Iestyn Rees, 21 Gareth Davies, 22 Dan Jones, 23 Joe Roberts.

Ddim ar gael oherwydd anaf

Liam Williams (foot), Sione Kalamafoni (knee), Sam Lousi (knee), Blade Thomson (foot), Uzair Cassiem (Achilles), Steff Hughes (knee), Jac Price (wrist), Sam Costelow (quad), Johnny Williams (shoulder), Rhys Patchell (hamstring), Tom Prydie (foot), Josh Macleod (Achilles), Dan Davis (hamstring), Tomi Lewis (knee), Samson Lee (concussion), James Davies (concussion), Danny Drake (ankle).