Pum Scarlet wedi’u enwi yng ngharfan d20 Cymru

Rob Lloyd Newyddion

Pump chwaraewr Scarlet wedi’u enwi yng ngharfan d20 Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad 2021 sydd yn cychwyn ar ddydd Sadwrn ym Mharc yr Arfau yn erbyn yr Eidal (CG 8yh).

Y maswr Sam Costelow, canolwr Eddie James (yn y llun), chwaraewr rheng ôl Carwyn Tuipulotu, mewnwr Harri Williams a’r prop Zak Giannini sydd wedi’u cynnwys yn y garfan 32 dyn.

Mae Costelow a Tuipulotu wedi gwneud eu ymddangosiadau cyntaf i’r garfan hyn y tymor yma; James a Williams wedi bod yn ymarfer yn gyson gyda’r garfan hyn ym Mharc y Scarlets, wrth i chwaraewr Llanelli Wanderers Giannini creu argraff ymysg rygbi gradd oedran.

Mae chwe chwaraewr yn barod wedi derbyn cap d20. Y blaenwyr Theo Bavacqua (Gleision Caerdydd) a James Fender (Gweilch) a’r cefnwyr Joe Hawkins, Costelow, Dan John a Jacob Beetham chwaraeodd yn ystod y pencampwriaeth llynedd wrth i Rhys Thomas cael ei gynnwys yn y garfan ond heb ei gapio.

Cyfaddefodd cyn hyfforddwr y blaenwyr i’r Scarlets Ioan Cunningham bod sawl penderfyniad anodd wedi’i wneud cyn cadarnhau’r garfan.

“Mae wedi bod yn heriol ond yn gyffrous hefyd,” dywedodd. “Mae wedi bod yn broses hir i wylio chwarewyr yn ymarfer gyda’r holl protocolau covid a dim gemau ond rydym yn hyderus fel hyfforddwyr bod y penderfyniadau cywir wed cael ei wneud ac rydym yn edrych ymlaen at eu weld.

“Yn wreiddiol, roedd gennym tua 46/48 yn y garfan ac fe gostyngwyd hynny i 36. Roedd sawl sgwrs anodd pan ddaeth y rhif i lawr ac roedd hynny’n dangos faint oedd bod yn rhan o’r garfan yn golygu iddyn nhw i gynrychioli eu gwlad – roedd tynnu’r rhif i lawr i 32 yn anodd, yn rhai o’r safleoedd mae’r gystadleuaeth yn gryf iawn.”

Er i’r mwyafrir o’r garfan heb chwarae am gyfnod hir oherwydd covid, mae Cunningham yn optimistig ei fod wedi creu carfan galluog sydd yn barod i lwyddo.

“Ar y cyfan mae’r garfan yn weddol ifanc, mae ond chwe chwaraewr yn cario drosodd o’r llynedd felly mae’n gyfle i dalent newydd sydd yn gyffroes iawn. Mae gennym cryfder ymysg y blaenwyr, maent yn grwp mawr o ddynion mawr ond mae ein cefnwyr yn dalentog hefyd gyda sawl chwaraewr dawnus – gobeithiwn fydd digon o feddiant i brofi eu hunain.”

Carfan d20 i’r Chwe Gwlad

Blaenwyr: Garyn Phillips (Ospreys), Theo Bavaqua (Cardiff Blues), Cameron Jones (Ospreys), Efan Daniel (Cardiff Blues), Ollie Burrows (Exeter Chiefs), Connor Chapman (Dragons), Nathan Evans (Cardiff Blues),  Lewys Jones (USON Nevers), Zak Giannini (Scarlets), Joe Peard (Dragons),  James Fender (Ospreys), Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs), Rhys Thomas (Ospreys/Aberavon), Alex Mann (Capt – Cardiff Blues), Christ Tshiunza (Exeter Chiefs), Harri Deaves (Ospreys), Tristan Davies (Ospreys), Carwyn Tuipulotu (Scarlets), Evan Lloyd (Cardiff Blues)

Cefnwyr: Jacob Beetham (Cardiff Blues),  Morgan Richards (Dragons/Pontypridd), Carrick McDonnough (Dragons), Eddie James (Scarlets), Tom Florence (Ospreys), Joe Hawkins (Ospreys) Ioan Evans (Pontypridd), Daniel John (Exeter Chiefs), Sam Costelow (Scarlets) Will Reed (Dragons), Ben Burnell (Cardiff Blues), Harri Williams (Scarlets), Ethan Lloyd (Cardiff Blues).

Gemau Chwe Gwlad Cymru d20 (i gyd ym Mharc yr Arfau)

Dydd Sadwrn 19 Mehefin: Yr Eidal v Cymru, CG 8yh

Dydd Gwener 25 Mehefin: Cymru v Iwerddon, CG 8yh

Dydd Iau 1 Gorffennaf: Ffrainc v Cymru, CG 5yh

Dydd Mercher 7 Gorffennaf: Cymru v Lloegr, CG 8yh

Dydd Iau 13 Gorffennaf: Yr Alban v Cymru, CG 8yh