Mae Liam Williams yn dychwelyd i’r tîm yn dilyn anaf, a Kieran Hardy bydd yn cael ei ail ddechreuad i Gymru ar Ddydd Sadwrn pan fydd y tîm yn gwynebu’r Eidal ym Mharc y Scarlets yn eu gêm derfynol o’r Cwpan Cenhedloedd yr Hydref (GC 16:45 Amazon Prime/ S4C)
Dychwelwyd Liam ar ôl derbyn anaf cas i’w geg a wnaeth gorfodi iddo golli mas ar gêm Lloegr penwythnos diwetha’, ac mae Kieran yn un sy’n ymuno yn dilyn naw newid i’r tîm a chafodd ei drechu gan Loegr.
Ar ôl sgori gais trawiadol ar y penwythnos, mae Johnny Williams wedi cadw ei le fel canolwr, a’r prop Wyn Jones a mewnwr Gareth Davies sydd wedi’u henwi fel eilyddion.
“Bydd Dydd Sadwrn yn gyfle arall i’r chwaraewyr ac i ni fel carfan i ddangos y gwaith caled rydym wedi gwneud yn ystod ymarferion a gweld y canlyniad o hynny” dywedodd Pivac.
“Rydym wedi gwobrwyo wyth cap newydd yn ystod yr ymgyrch yma, ac yn fwy pwysig, bydd gan y chwaraewyr ymddangosiadau i’w henwau.
“Pwysigrwydd yr ymgyrch yma oedd rhoi cyfleoedd i’r chwaraewyr, ac rydym wedi cyflawni hynny.
“Mae’r gwaith caled yn dechrau dangos, ac rydym eisiau dangos hynny eto Dydd Sadwrn a gorffen yr ymgyrch gyda buddugoliaeth a pherfformiad da.”
CYMRU: 15 Liam Williams (Scarlets); 14 Josh Adams (Gleision Caerdydd), 13 George North (Gweilch), 12 Johnny Williams (Scarlets), 11 Louis Rees-Zammit (Caerloyw); 10 Callum Sheedy (Eirth Bryste), 9 Kieran Hardy (Scarlets); 1 Nicky Smith (Gweilch), 2 Sam Parry (Gweilch), 3 Tomas Francis (Exeter Chiefs), 4 Will Rowlands (Wasps), 5 Alun Wyn Jones (Gweilch, capt), 6 James Botham (Gleision Caerdydd), 7 Justin Tipuric (Gweilch), 8 Taulupe Faletau (Caerfaddon).
Eilyddion: 16 Elliot Dee (Dreigiau), 17 Wyn Jones (Scarlets), 18 Leon Brown (Dreigiau), 19 Cory Hill (Gleision Caerdydd), 20 Aaron Wainwright (Dreigiau), 21 Gareth Davies (Scarlets), 22 Ioan Lloyd (Eirth Bryste), 23 Jonah Holmes (Dreigiau).