Pump Scarlet wedi’u henwi yn nhîm am Gamp Lawn

Rob LloydNewyddion

Mae pump Scarlet wedi’u henwi yn nhîm Cymru a fydd yn gobeithio ennill y Gamp Lawn yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Sadwrn ym Mharis (20:00 amser DU).

Wedi’u cynnwys yn yr ochr sydd yn dangos un newid ers y fuddugoliaeth yn erbyn yr Eidal mae Liam Williams, Jonathan Davies, Gareth Davies, Wyn Jones a Ken Owens.

Clo’r Gweilch Adam Beard sydd yn cymryd lle Cory Hill, sydd ar y fainc ac yn cymryd lle chwaraewyr ail-reng y Scarlets Jake Ball, a enillodd ei 50fed cap yn Rhufain.

“Rydym wedi ennill y pedair gêm hyd yn hyn a fydd y penwythnos yn her fawr i ni yn erbyn tîm Ffrangeg anhygoel, ond rydym yn edrych ymlaen yn fawr.” dywedodd prif hyfforddwr tîm Cymru Wayne Pivac.

“Bydd rhaid i ni gamu fyny o’n perfformiadau blaenorol ac rydym am orffen y twrnamaint gyda pherfformiadau rydym yn falch ohono.

“Mae ein timoedd wedi bod yn gyson trwy gydol y twrnamaint ac mae hynny’n dangos unwaith eto gyda thîm dydd Sadwrn.”

TÎM CYMRU YN ERBYN FFRAINC (DYDD SADWRN MAWRTH 22 GC 20:00 BBC & S4C)

15. Liam Williams (Scarlets); 14. Louis Rees-Zammit (Gloucester), 13. George North (Ospreys), 12. Jonathan Davies (Scarlets), 11. Josh Adams (Cardiff Blues); 10. Dan Biggar (Northampton Saints), 9. Gareth Davies (Scarets); 1. Wyn Jones (Scarlets) 2. Ken Owens (Scarlets) 3. Tomas Francis (Exeter Chiefs) 4. Adam Beard (Ospreys) 5. Alun Wyn Jones (Ospreys), 6. Josh Navidi (Cardiff Blues), 7. Justin Tipuric (Ospreys), 8. Taulupe Faletau (Bath).

Replacements: 16. Elliot Dee (Dragons), 17. Nicky Smith (Ospreys), 18 Leon Brown (Dragons), 19. Cory Hill (Cardiff Blues), 20 James Botham (Cardiff Blues), 21 Tomos Williams (Cardiff Blues), 22 Callum Sheedy (Bristol Bears), 23 Uilisi Halaholo (Cardiff Blues)