Pwy sydd yn ennill eich pleidlais am chwaraewr y mis am Ebrill?

Rob Lloyd Newyddion

Mae’n amser i bleidleisio am eich Chwaraewyr y Mis Olew Dros Gymru am fis Ebrill.

Yn dilyn y gemau darbi trwy gydol Ebrill, roedd cymysgwch o ganlyniadau i ochr Dwayne Peel.

Dechreuodd y gyfres o gemau yn bositif yn dilyn y dwbl yn erbyn Caerdydd, a’r golled yn cael ei gywiro gyda’r fuddugoliaeth yn erbyn y Dreigiau ac wedyn y golled yn erbyn y Gweilch yn Abertawe penwythnos diwethaf.

Mae sawl cystadleuydd ar gyfer y wobr mis yma, dyma’r pedwar sydd o fewn golwg.

SAM LOUSI

Yn bresenoldeb aruthrol yng nghalon yr ochr, mae Sam wedi darparu sawl berfformiad anhygoel yn yr ail reng i’r Scarlets. Nad oedd yn rhan o’r golled yn erbyn y Dreigiau ond dychwelodd fel rhan o’r llwyddiant i’r tîm gan ennill gwobr chwaraewr y gêm.

RYAN CONBEER
Dathlodd enedigaeth ei fabi trwy sgori tri chais yn erbyn y Gweilch gan godi’r cwestiwn am gael ei ddewis ar gyfer carfan Cymru am yr haf.

SIONE KALAMAFONI

Yn un o’r chwaraewyr mwyaf cyson yn y garfan, mae’r wythwr ar frig y tabl URC am gario ac yn yr ail safle am nifer o daclau. Mae Sione yn mwynhau ymgyrch rhagorol.

SAM COSTELOW

Sgoriodd cais unigol arbennig yn erbyn Caerdydd ym Mharc y Scarlets gan roi perfformiad gwych yn erbyn y Gweilch hefyd, mae Sam yn fygythiad cyson fel amddiffynnwr. Mae ei ddatblygiad yn y crys rhif 10 yn amlwg.

Ewch i’n sianeli Trydar ac Instagram i bleidleisio