Pwy yw eich chwaraewr Scarlets y mis am fis Mawrth?

Gwenan Newyddion

Wrth i’r Guinness PRO14 dod i ben gyda diweddglo dramatig mae’n amser i bleidleisio am eich Chwaraewr y mis Olew Dros Gymru am fis Mawrth.

Fel mis Chwefror, ond dwy gêm cafodd ei chwarae – colled siomedig oddi cartref yn erbyn pencampwyr Cynhadledd B Munster a’i ddilyn gan gêm anghredadwy yn erbyn Connacht ym Mharc y Scarlets.

Dyma’r pedwar sydd yn cystadlu am y wobr.

Pleidleisiwch wrth glicio ar y ddolen yma neu ewch i’n tudalen Trydar a sianeli cyfryngau cymdeithasol eraill.

Aaron Shingler

Mae’r chwaraewr rhyngwladol 33 oed wedi dychwelyd i’r gêm fel petai ei fod byth wedi’i anafu. Dychwelodd i’r Scarlets yn Limerick gan orffen y gêm fel ein prif daclwr. Sgoriodd cais cynnar yn ystod ei berfformiad yn erbyn Connacht.

Sam Lousi

Mae ei sgiliau dadlwytho wedi serennu wrth gynorthwyo ceisiau Steff Evans (Munster) a Dane Blacker (Connacht). Mae’r chwaraewr ail-reng wedi chwarae rhan bwysig yn ein hamddiffyn hefyd.

Johnny Williams

Er iddo ond chwarae 40 munud yn ei ddwy gêm ddiwethaf fe lwyddodd i adael ei farc ar y cae chwarae. Sbardunodd yr ymdrech i faeddu Connacht gan dorri trwy a dadlwytho i gynorthwyo ail gais Steff Hughes ac aeth ymlaen i ennill gwobr seren y gêm.

Steff Hughes

Yn parhau i gadw’r drefn yng nghanol cae. Croesodd am ddau gais gwych yn erbyn Connacht wythnos diwethaf gan helpu Tom Rogers mewn i’w le i weld yr asgellwr yn croesi’r llinell am gais unigol.