Pwy yw eich chwaraewr Scarlets y mis?

Rob Lloyd Newyddion

Gyda’r bloc agoriadol o gemau’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig wedi cwblhau, mae’n amser i chi bleidleisio am eich chwaraewr y mis.

Mae’r wobr ar gyfer mis Hydref yn ystyried perfformiadau o’r pum gêm yn erbyn Caeredin, Emirates Lions, Munster, Leinster a Benetton.

Dyma’r rhestr fer

Scott Williams

Ers dychwelyd i’r Scarlets mae’r canolwr profiadol wedi rhoi perfformiadau cryf i’r rhanbarth gan ennill gwobr seren y gêm yn erbyn Benetton, gan osod cais i Dane Blacker a wnaeth ennill ei le yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau’r Hydref.

Sione Kalamafoni

Yn aml wedi’i nodi ar y rhestr fer hon, mae Sione wedi perfformio’n gyson i’r Scarlets yn enwedig yn ystod y ddwy gêm agoriadol yn erbyn Caeredin a’r Lions gyda’i chwarae deinameg yn ennill gwobr seren y gêm yn erbyn y De Affricanwyr.

Rob Evans

Mae’r prop rhyngwladol wedi bod at galon rheng flaen y Scarlets gan ymddangos ym mhob gêm a chroesi am geisiau yn erbyn y Lions a Benetton. Mae Rob hefyd wedi arddangos ei sgiliau pêl dros y misoedd diwethaf.

Johnny McNicholl

Mae Johnny wedi serennu fel un o’n hymosodwyr mwyaf gweithgar yn y bencampwriaeth mor belled. Ar ôl sgori ceisiau yn erbyn Caeredin, Munster a Leinster fe lwyddodd i gadw’r steil yn gêm agoriadol Cymru yn erbyn y Crysau Duon.

Blade Thomson

Mae Blade wedi bod yn ddibynadwy yn ein gemau agoriadol, pe bai gyda’r bel neu beidio. Un o’r taclwyr gorau yn y gynghrair, mae hefyd wedi llwyddo i droi’r bel drosodd saith o weithiau.

Pleidleisiwch ar gyfer eich chwaraewyr y mis Olew Dros Gymru trwy fynd i’r ddolen isod here.

Cyhoeddwn yr enillydd ar Ddydd Mercher!