Mae’n amser i bleidleisio am eich Chwaraewr y Mis Olew Dros Gymru am fis Chwefror.
Yn dilyn Ionawr siomedig, mae’r Scarlets wedi bownsio yn ôl gyda buddugoliaethau cyffroes yn erbyn Benetton a Chaeredin ac mae nifer o berfformiadau unigol wedi sefyll allan.
Ein pedwar chwaraewr am fis Chwefror yw …
Jac Morgan
Mae Jac wedi dychwelyd o anaf i’w ben-glin i roi perfformiad anhygoel a wnaeth haeddu wobr seren y gêm yn erbyn Benetton, gan sgori dau gais i helpu sicrhau’r fuddugoliaeth. Yn dilyn hynny, fe roddodd berfformiad cryf arall ym Murrayfield, gan gyflawni 25 tacl a dau drosiant.
Sione Kalamafoni
Ein henillydd am fis Ionawr, Kalamafoni wedi parhau gyda’i ffurf drawiadol ers cyrraedd o Gaerlŷr. Llwyddodd yr wythwr 31 o daclau yn erbyn Caeredin ac maent nawr ar dop y tabl yn y Guinness PRO14.
Tyler Morgan
Mae’r chwaraewr rhyngwladol wedi bod yn bresenoldeb cryf yng nghanol cae. Llwyddodd i arwain Kalamafoni at ei gais yn erbyn Benetton ac fe groesodd am gais ei hun, ei gais cyntaf i’r Scarlets, yn erbyn Caeredin.
Dane Blacker
Mae’r mewnwr yn arwain y tabl am y fwyaf o geisiau i’r Scarlets y tymor hwn ar ôl gweld cyfle i groesi yn erbyn Benetton a Chaeredin.
I bleidleisio am eich ennillydd cliciwch ar y linc neu ewch i’n cyfrif Trydar @scarlets_rugby