Pwy yw eich chwaraewr y mis am fis Ionawr?

Rob Lloyd Newyddion

Yn dilyn cwpl o fisoedd tawel, mae Ionawr wedi croesawu rygbi byw nôl i’n bywydau ac mae’n amser i bleidleisio am eich Chwaraewr y Mis Olew Dros Gymru.

Wedi’u cynnwys yn wobr mis Ionawr mae’r buddugoliaeth Ionawr y 1af yn erbyn y Gweilch, y gemau Ewropeaidd yn erbyn Bordeaux-Begles a Bryste a’r gêm penwythnos diwethaf yn erbyn Ulster.

Chi, ein cefnogwyr, bydd yn penderfynu ar bwy fydd yn ennill a dyma’r cystadleuwyr.

Sam Lousi

Mae Sam wedi codi ei bresenoldeb sawl tro yn ystod y mis ac wedi dangos ei steil dadlwytho wych yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn y Gweilch.

Johnny McNicholl

Un o chwaraewyr craidd Cymru wrth cychwyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Wedi serennu ar yr asgell (gan groesi am ddau gais yn erbyn y Gweilch) ac fel cefnwr gyda’i draed cyflym a dwylo diogel.

Sione Kalamafoni

Yn debyg i Sam, fe all Sione wed’i enwi fel seren y gêm yn erbyn y Gweilch ac wedi parhau i frwydro trwy’r tair colled ers. Fe oedd y carriwr gorau i’r Scarlets yn y pedair gêm.

Samson Lee

Mae’r prop pen tynn profiadol wedi dychwelyd o’i anaf i roi perfformiadau cryf ym mhac y Scarlets. Fe oedd yr angor yn sgrym y Scarlets ac fe groesodd am gais agoriadol yn erbyn Ulster.

Pleidleisiwch am eich Chwaraewr y Mis Olew Dros Gymru ar ein cyfrif Trydar.

Bydd yr ennillydd yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd yr wythnos!