Rawlins i ddychwelyd am gêm Connacht nos Lun

Rob Lloyd Newyddion

Mae Lewis Rawlins yn dychwelyd o’i anaf i gymryd safle yn XV y Scarlets sydd i wynebu Connacht yn rownd 16 o’r Guinness PRO14 ym Mharc y Scarlets ar nos Lun (20:00 S4C & Premier Sports).

Derbyniodd y chwaraewr ail reng, a fuodd yn aelod o’r tîm PRO12 fuddugol, llaw driniaeth ar ei wddf a heb chwarae ers y gêm golledig yn erbyn Glasgow ym mis Hydref.

Rawlins ydy un o’r tri newid sydd i’r ochr a wynebodd Munster y tro diwethaf allan.

Gyda Johnny McNicholl allan gydag anaf i’w ysgwydd, mae Tom Rogers, sydd wedi gwella o anaf i’w ben-glin, yn dechrau fel cefnwr.

Yr unig newid arall sydd ymysg y cefnwyr yw yn safle’r maswr lle mae Dan Jones yn dychwelyd yn lle Angus O’Brien, sydd wedi’i enwi ymysg yr eilyddion.

Mae’r rheng flaen yn parhau gyda Steffan Thomas, Marc Jones a Pieter Scholtz gyda Rawlins yn bartner â Sam Lousi fel clo. Aaron Shingler, Jac Morgan a Sione Kalamafoni sydd yn cyfuno eto yn y rheng ôl.

Mae Ryan Elias a Johnny Williams wedi’u ryddhau o garfan Chwe Gwlad Cymru ac wedi’u henwi ar y fainc.

Roedd y chwaraewr rhyngwladol Rhys Patchell am wneud ei ddychweliad i rygbi yn y gêm hon, ond fe anafwyd ei hamstring yn ystod ymarfer ar ddydd Sadwrn.

Mae’r Scarlets, sydd yn y trydydd safle yng Nghynhadledd B, yn targedu’r fuddugoliaeth i helpu eu hachos yng Nghwpan Pencampwyr Heineken y tymor nesaf.

Prif hyfforddwr Glenn Delaney

“Rydym mewn safle dechau o ran bod yn gymwys i Gwpan Pencampwyr, mae o fewn ein gallu. Roedd y fuddugoliaeth yn erbyn Caeredin rhai wythnosau yn ôl yn dangos y fath o rygbi rydym am chwarae a gobeithio fe allwn roi perfformiad tebyg sydd digon da i alluogi’r canlyniad rydym eisiau.”

Scarlets v Connacht (Parc y Scarlets 20:00, S4C & Premier Sports)

15 Tom Rogers; 14 Tom Prydie, 13 Tyler Morgan, 12 Steff Hughes (capt), 11 Steff Evans; 10 Dan Jones, 9 Dane Blacker; 1 Steffan Thomas, 2 Marc Jones, 3 Pieter Scholtz, 4 Lewis Rawlins, 5 Sam Lousi, 6 Aaron Shingler, 7 Jac Morgan, 8 Sione Kalamafoni.

Reps: 16 Ryan Elias, 17 Kemsley Mathias, 18 Javan Sebastian, 19 Tevita Ratuva, 20 Uzair Cassiem, 21 Will Homer, 22 Angus O’Brien, 23 Johnny Williams.

Ddim ar gael oherwydd anaf

Rhys Patchell (hamstring), Johnny McNicholl (shoulder), Phil Price (knee), Kieran Hardy (hamstring), Josh Macleod (Achilles), Dan Davis (hamstring), Paul Asquith (hamstring), Blade Thomson (concussion), Tomi Lewis (knee), Samson Lee (concussion), Rob Evans (concussion), James Davies (concussion), Danny Drake (ankle), Sam Costelow (ankle), Ryan Conbeer (ankle), Ioan Nicholas (ankle).

Ddim ar gael oherwydd dyletswydd rhyngwladol

Ken Owens, Wyn Jones, Jake Ball, Gareth Davies, Jonathan Davies, Liam Williams, Leigh Halfpenny.