Mae’r Scarlets wedi dechrau defnyddio netiau cicio newydd er mwyn i’w cicwyr datblygu eu sgiliau.
Mae’r netiau, a gyflenwir gan the School of Kicking, wedi cael ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod clo gan y chwaraewyr i ddatblygu eu sgiliau yn eu cartrefi.
Maent wedi profi i fod yn ddefnyddiol iawn ar y caeau ymarfer hefyd
Esboniodd hyfforddwr y cefnwyr Dai Flanagan: “Yn ystod y cyfnod clo lle’r oedd y chwaraewyr methu ymarfer megis grŵp, roedd y netiau yma yn rhwydd iddyn nhw ddefnyddio yn eu cartrefi. Maen nhw’n rhwydd setio fyny ac yn arbed amser wrth ymarfer ar ben dy hun.
“Mae’r netiau wedi galluogi i’r chwaraewyr i barhau i wella’u sgiliau a lleihau’r risg o anafiadau pan fyddwn yn ailgychwyn chwarae wrth iddyn nhw barhau gyda’u cicio. Maent hefyd yn ddefnyddiol i gynhesu’r ciciwr i fyny gyda chicio ysgafn cyn cychwyn sesiwn.”
Am fwy o wybodaeth am y netiau cicio ewch i schoolofkicking.com