Rhys Patchell ar gael am ddiweddglo yn erbyn Connacht

Rob Lloyd Newyddion

Siaradodd Glenn Delaney â’r wasg o flaen gêm diweddglo’r Guinness PRO14 nos Lun yn erbyn Connacht.

Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud am yr her o’u blaenau ac argaeledd rhai o hoff chwaraewyr ein cefnogwyr.

Pa mor bwysig yw rygbi Cwpan Pencampwyr i’r Scarlets? 

GD: “Mae’n amlwg yn bwysig ac wrth fynd i mewn i’r gêm yma mae hynny o dan ein rheolaeth. Ein unig amcan yw mynd allan a chwarae rygbi o safon digon da i allu ennill. Rydym mewn safle da, gwnaeth y fuddugoliaeth yn erbyn Caeredin helpu hynny, ac rydym am adeiladu ar y perfformiad hynny.

Y fuddugoliaeth yn Connacht oedd un o’r rhai gorau gwelsom y tymor hwn. Rwy’n dychmygu rydych yn anelu at rywbeth tebyg y tro yma? 

GD: “Mae ond un peth yn debyg rhwng gemau Connacht a Chaeredin a hynny yw’r ffordd gwnaethom chwarae. Beth sy’n eironig yw roedd y tywydd mor wahanol yn y ddwy gêm, rwy’n credu mai hynny’n dangos ein gallu i chwarae mewn unrhyw amod. Gobeithio fe gawn noson sych; mae Connacht yn hoffi chwarae hefyd, ac os gawn hynny, fe fydd hi’n gêm dda.”

Wyt ti’n teimlo’n rhwystredig gyda’ch anghysondeb y tymor yma?

GD: “Mae rhaid sylweddoli bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn unigryw iawn. Wrth edrych ar ein hamser chwarae, y nifer o newidiadau i’r grŵp, y nifer o chwaraewyr ifanc sydd wedi cael eu cyfleoedd cyntaf dros y tymor, mae’r penderfyniadau yna wedi bod o dan ein rheolaeth ni. Gyda nifer o chwaraewyr i ffwrdd ar ddyletswydd ryngwladol, mae’r her i glybiau gyda nifer fawr o’u chwaraewyr yn cynrychioli’u gwledydd wedi bod yn amlwg i bawb. Mae hynny wedi bod yn gyfle i gyflwyno bois ifanc ac rydych wedi gweld hynny trwy ymddangosiadau cyntaf yn y PRO14. Daeth Morgan Jones sy’n 21 oed i mewn a galw’r llinell ac yn awr wedi chwarae rhyw 650 munud o rygbi yn y PRO14. Mae hyn yn gam enfawr i ddyn ifanc. Rydym yn hapus gyda’r ffordd mae’r grŵp yn datblygu.

“Hefyd, mae dod yn gyfarwydd â ffordd newydd o chwarae yn gallu cymryd amser, ac mae yna anghysondeb wedi bod wrth fethu dewis yr un tîm bob wythnos. Rydym mewn cyfnod da ar hyn o bryd. Mae’r tîm wedi bod yn gyson dros yr wythnosau diwethaf, a gobeithio bydd hynny yn ein helpu.”

Beth am anafiadau?

GD: “Roedd cwpl o anafiadau yn dilyn gêm Munster, ac rydym ychydig yn ysgafn ymysg y cefnwyr, gyda thua 10-12 ar gael, ond dyna sut mae’r tymor wedi diweddu. Rydym nawr ar rywbeth fel wythnos 40 felly mae wedi bod yn gyfnod hir, mae’r chwaraewyr wedi bod yn adlamol trwy ddelio â phopeth. Bydd y grŵp yn debyg iawn i’r rheiny sydd wedi chwarae yn ddiweddar.

Shwd mae Rhys Patchell?

GD: “Mae Rhys yn iach ac ar gael, sydd yn newyddion grêt iddo. Mae wedi bod yn grêt i’w weld yn ôl, fe ddaeth ar yr awyren i Munster ac roedd hynny yn rhan o’r cynllun i’w gael yn gyfarwydd â bod yn ôl yn y grŵp. Mae ar gael ar gyfer y nos Lun. Mae Rhys wedi gwneud popeth a oedd angen iddo. Roedd amser yn bwysig yn ei adferiad, ac mae’r amser yna wedi dod i ben ac mae’n barod i ddod yn ôl. Mae’n ddyn da i gael yn ôl.”