Rhys Patchell i ddychwelyd ar gyfer gêm ddatblygedig

Rob LloydNewyddion

Mae Rhys Patchell yn dychwelyd i dîm y Scarlets o’i anaf i chwarae yn nhîm datblygedig i wynebu Dreigiau A yn Rodney Parade ar nos Wener (cg 6yh).

Dyma fydd ymddangosiad cyntaf y tymor i’r maswr, ar ôl iddo golli mas ar y bloc agoriadol o gemau oherwydd anaf.

Mae’r chwaraewr 28 oed yn cymryd ei le ymysg sawl enw anghyfarwydd i’r Scarlets sydd yn addo noson llawn talent ifanc.

Yn y tri ôl, mae Tom Rogers a Ryan Conbeer yn cyd-weithio gydag asgellwr yr Academi Callum Williams, sydd wedi croesi am bedair cais yn ystod ei bedwar gêm ddiwethaf i Glwb Rygbi Llanymddyfri yng Nghwpan Uwchgynghrair Cymru.

Tyler Morgan, a oedd gynt yn chwarae i’r Dreigiau fydd yn cyfuno gyda Joe Roberts yng nghanol cae, wrth i Patchell gwrdd â’r mewnwr 18 oed Archie Hughes.

Yn y rheng flaen, mae Kemsley Mathias, y capten Shaun Evans a Alex Jeffries gyda Jac Price a Morgan Jones yn yr ail reng.

Blaenwr yr Academi Caleb Salmon, Iestyn Rees a Carwyn Tuipulotu – sydd wedi gwella o anaf i’w fys – sydd yn cwblhau’r rheng ôl.

Ar y fainc, mae’r Scarlets yn werthfawrogol o gymorth Clwb Rygbi Llanymddyfri i adael eu blaenwyr Osian Davies a Griff Evans i ymddangos. Hefyd wedi’u henwi ymysg yr eilyddion mae chwaraewyr yr Academi, y bachwr Morgan Macrae, maswr Josh Phillips a chanolwr Cymru D20 Eddie James.

Tîm Datblygu’r Scarlets v Dreigiau A (Rodney Parade; Dydd Gwener, Tach 12; 7yh)

15 Tom Rogers; 14 Ryan Conbeer, 13 Tyler Morgan, 12 Joe Roberts, 11 Callum Williams; 10 Rhys Patchell, 9 Archie Hughes; 1 Kemsley Mathias 2 Shaun Evans (capt), 3 Alex Jeffries, 4 Morgan Jones, 5 Jac Price, 6 Caleb Salmon, 7 Iestyn Rees, 8 Carwyn Tuipulotu.

Reps: 16 Daf Hughes, 17 Steff Thomas, 18 Harri O’Connor, 19 Osian Davies, 20 Morgan Macrae, 21 Griff Evans, 22 Dane Blacker, 23 Josh Phillips, 24 Eddie James, 25 Steff Hughes.