Rowndiau tri a phedwar o Gwpan Pencampwyr Heineken i fynd ymlaen fel y trefnwyd

Rob Lloyd Newyddion

Mae EPCR yn falch i gyhoeddi bydd gemau rownd tri a phedwar o Gwpan Pencampwyr Heineken a Chwpan Her EPCR yn mynd ymlaen fel y trefnwyd.

Bydd Scarlets yn teithio i chwarae Bordeaux-Bègles ar Ddydd Sul, Ionawr 16 (15:15 amser Prydeinig) ac wedyn yn chwarae Bristol Bears ym Mharc y Scarlets ar Ddydd Sadwrn, Ionawr 22 (17:30) yn rownd pedwar.

Yn dilyn trafodaethau rhwng y gynghreir ac undebau, mae EPCR wedi cadarnhau canllawiau gan Lywodraeth Ffrainc yn esgusodu clybiau a swyddogion gêm sy’n teithio rhwng Ffrainc a’r DU.

Bydd gwybodaeth pellach yn cael eu darparu gan awdurdodau Ffrengig a fydd o bosib yn rhoi amodau newydd i deithwyr rhwng Ffrainc a’r DU.

Tra’n cydnabod yr amser heriol yma i bawb, mae EPCR yn parhau i weithio gyda’r gynghreir ac undebau er mwyn sicrhau bydd y gemau Ionawr yn cael eu chwarae’n ddiogel.

Mae’r wyth clwb ar frig Cwpan Pencampwyr Heineken o bob pool yn gwymwys i’r gemau ‘knockout’, a 10 clwb yn mynd ymlaen i’r rownd o 16 yng Nghwpan Her, gyda chwe arall o Gwpan Pencampwyr yn gymwys o flaen y rownd derfynol ym mis Mai, mae EPCR yn optimistig bydd twrnamaint y tymor yn mynd ymlaen.

Yn ogystal â hyn, mae trafodaethau yn mynd ymlaen ymysg y pum gêm Cwpan Pencampwyr Heineken a dau Cwpan Her a chafodd eu gohirio o ganlyniad i rheolau teithio rhwng Ffrainc a’r DU. Ni fydd sylw pellach ar hyn ar hyn o bryd.