Bydd bachwr Cymru Ryan Elias yn gapten ar dîm y Scarlets yn eu gêm ddiwethaf o’r tymor yn erbyn Caeredin ar ddydd Sul (13:00 gc).
Dyma fydd y gêm gyntaf i gefnogwyr fynychu ers mis Chwefror 2020 (yn erbyn Southern Kings) ym Mharc y Scarlets gan ddilyn y llacio o ganllawiau Covid, er iddo fod i gapasiti cyfyngedig.
Mae’r prif hyfforddwr Dai Flanagan wedi ad-drefnu’r ochr unwaith eto i ddangos 10 newid i’r tîm chwaraeodd diwethaf yn erbyn Gleision Caerdydd.
Yn y tri ôl, mae Tom Rogers yn newid i gefnwr wrth i Ryan Conbeer a Steff Evans rheoli’r asgell.
Yng nghanol cae, mae Tyler Morgan a Steff Hughes, sydd wedi gwella o anaf, yn parhau eu partneriaeth fel canolwyr, wrth i Dan Jones a Kieran Hardy cyfuno fel haneri i gystadlu ymysg cefnwyr oll-Gymraeg.
Yn y rheng flaen mae Steff Thomas a Pieter Scholtz wrth ochr Elias, wrth i’r clo Josh Helps ymuno â Morgan Jones. Blade Thomson, Jac Morgan a Uzair Cassiem sy’n ffurfio’r rheng ôl.
Mae yna groeso mawr i brop Cymru Samson Lee wrth iddo ddychwelyd o anaf, ac yn paratoi i wneud ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb ers y fuddugoliaeth Cwpan Pencampwyr yn erbyn Caerfaddon ym mis Rhagfyr.
Yn ymuno â Lee ar y fainc ar gyfer y blaenwyr mae Daf Hughes, Rob Evans, Danny Drake ac Iestyn Rees. Gweddill yr eilyddion yw Will Homer, Sam Costelow – sydd wedi gwella o anaf – a Joe Roberts.
Bydd Scholtz, Morgan, Cassiem a Homer yn chwarae eu gêm ddiwethaf i’r clwb cyn symud ymlaen wrth i’r ymgyrch orffen am y tymor.
Dyma fydd y trydedd gêm rhwng y ddau ochr y tymor yma. Roedd Caeredin yn fuddugol ym mis Tachwedd yn Llanelli o 6-3, wrth i’r Scarlets trechu’r tîm cartref ym Murrayfield nôl yn Ionawr.
Prif hyfforddwr y Scarlets Dai Flanagan
“Mae’n anhygoel i gael y cefnogwyr nôl. Mae pawb yn edrych ymlaen ac rydym wedi gweld mwy o ymdrech yn cael ei rhoi i mewn yn ystod ymarfer wythnos yma wrth i bawb eisiau chwarae yn y gêm. I ni am adael marc ar y cefnogwyr, maen nhw wedi colli dod yma yn enwedig i Barc y Scarlets lle mae llawer o fywydau bobl wedi’u trefnu o amgylch gemau. I ni am roi’r teimlad yna iddyn nhw, buzz o beth sydd i ddod y tymor nesaf fel ein bod gallu edrych ymlaen at y tymor newydd.”
Scarlets v Caeredin (Cwpan yr Enfys Guinness PRO14; Parc y Scarlets, Sul, Meh 13, 13:00 Premier Sports)
15 Tom Rogers; 14 Ryan Conbeer, 13 Tyler Morgan, 12 Steff Hughes, 11 Steff Evans; 10 Dan Jones, 9 Kieran Hardy; 1 Steff Thomas, 2 Ryan Elias (capt), 3 Pieter Scholtz, 4 Josh Helps, 5 Morgan Jones, 6 Blade Thomson, 7 Jac Morgan, 8 Uzair Cassiem.
Reps: 16 Daf Hughes, 17 Rob Evans, 18 Samson Lee, 19 Danny Drake, 20 Iestyn Rees, 21 Will Homer, 22 Sam Costelow, 23 Joe Roberts.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Dane Blacker (foot), Sione Kalamafoni (knee), Sam Lousi (knee), Jac Price (wrist), Johnny Williams (shoulder), Rhys Patchell (hamstring), Tom Prydie (foot), Josh Macleod (Achilles), Dan Davis (hamstring), Tomi Lewis (knee), James Davies (concussion).