Ryan Elias yn rhagolygu Bordeaux

Rob Lloyd Newyddion

Siaradodd Ryan Elias i’r wasg o flaen y gêm Cwpan Pencampwyr Heineken ar Ddydd Sul yn erbyn Bordeaux-Begles yn Llanelli.

Dyma beth oedd gan fachwr Cymru i weud

Ryan, crynhô’r wythnosau diwethaf?

RE: “Roedd hi’n brofiad da i adeiladu cymeriad! Roedd hi’n un o’r sefyllfaoedd yna lle’r oedd rhaid i ni fynd gyda’r dorf a jyst parhau. Pan gyrhaeddon De Affrica roedd y grŵp yn dda yn dilyn y protocolau, ond ar yr adeg hynny nad oeddwn yn ymwybodol o’r variant newydd. Wedyn fe ddaeth y newyddion a chawsom ein rhybuddio i aros yn ein hystafelloedd nes i wybod mwy. Rhyw ddiwrnod neu ddau wedyn cawsom gadarnhad ein bod yn symud i Ddulyn. I fod yn onest, gyda’r holl ansicrwydd o fod yn Ne Affrica, roedd hi’n braf cael gwybod ein bod yn gallu mynd nôl i’r DU. Yn gwarantin, roedd y diwrnodau yn hir iawn yn enwedig pan mae’r bois mor gyfarwydd â ymarfer bob dydd ac yn cadw’n heini. Roedd rhaid i ni addasu am y 23 awr a hanner yn ein hystafell bob diwrnod.”

Sut mae’r ymarferion wedi bod yr wythnos yma?

RE: “Fe ddaeth pawb i mewn ar Ddydd Llun ac roedd hynny’n ailgyflwynid i’r bois. Gan oedd cymaint o amser gyda ni yng nghwarantin, fe edrychon ar Bordeaux o flaen llaw. Siaradon am fanylion fel ein bod yn barod am yr wythnos. Roedd rhaid i ni dal i fyny yn gyflym. Roedd Dydd Llun amdano ganolbwyntio ar y manylion hynny.”

Faint wyt ti’n edrych ymlaen at chwarae eto?

RE: “Yn dychwelyd o ymgyrch yr Hydref, roeddwn eisiau mynd i Dde Affrica a chwarae mas yna, chwarae Bryste a chadw’r momentwm i fynd. Nawr, dw i wedi cael tair wythnos bant o rygbi. Rwy’n edrych ymlaen at ailgychwyn eto. Dwi’n credu ces i un neu dda rhediad dechau gyda Chymru ac mae gen i fwy o hyder ar ôl hynny. Nad wy’n credu bod cwarantin wedi effeithio unrhywbeth. Rwy’n teimlo’n ffres ar ôl y cyfnod hynny ac wedi gwneud dau ddiwrnod o ymarfer nawr. Mae fy nghryfder a ffitrwydd yn teimlo’n dda. Rwy’n hyderus ac yn edrych ymlaen at chwarae. Gobeithio gallai bigo i fyny o ble orffennais. Bydd Bordeaux yn sialens i mi ac i’r bois arall ond rydym yn edrych ymlaen.”

Wyt ti’n credu bod yr wythnosau diwethaf wedi dod â chi’n agosach fel carfan?

RE: “Ydw. Yn amlwg nad oedd y bois gyda’i gilydd ond roedd llawer o sgyrsiau yn y grŵp WhatsApp. Roedd y bois ar FaceTime gyda’i gilydd i weld sut oedd pawb. Mae’r grŵp yn teimlo’n agosach oherwydd hynny ac ar ôl mynd trwy gwpl o wythnosau nad oedd yn ddelfrydol. Rydym ar fin chwarae yn erbyn tîm ar frig y tabl Ffrengig ac mi fydd hynny’n enfawr. Bydd pawb eisiau cyfle. Rwy’n edrych ymlaen at yr her. Mae’r grŵp yna’n fawr ac yn gallu chwarae. Mi fydd hi’n gêm anodd ond mae pawb yn edrych ymlaen ar yr un pryd. Fe dreuliodd y bois oedd yma yn ystod yr ymgyrch Hydref yn ymarfer heb unrhyw gêm i anelu tuag at, felly mae pawb yn edrych ymlaen. Mae’n bwysig i beidio edrych gormod ar beth sydd i ddod a jyst ymrwymo.”