“Ry’n ni’n falch â’r pum pwynt,” medd Pivac

Menna Isaac Newyddion

Sicrhaodd y Scarlets fuddugoliaeth dros y pencampwyr Leinster ym Mharc y Scarlets penwythnos diwethaf ac roedd y prif hyfforddwr Wayne Pivac yn teimlo bod y tîm yn dal i ddod dros hynny wrth groesawu Benetton Rugby i’r Parc ddoe, Sadwrn 15fed Medi.

Y Scarlets ddaeth i’r brig yn yr ornest gorfforol, lle gwelwyd deg cais, gyda’r Scarlets yn sgori chwech o’r rheini ond fe wthiodd Benetton y tîm cartref i’r eithaf.  Bu’n rhaid i’r Scarlets sgori dri chais yn y cwarter olaf i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Wrth ymateb i’r gêm dywedodd Pivac; “Roedd ychydig o déjà vu ar adegau, wrth edrych yn ôl i’r gêm yna yn eu herbyn y llynedd.

“Ry’n ni’n hapus gyda’r pump pwynt. Fe fyddan nhw’n teimlo ychydig yn rhwystredig bod Leigh wedi cicio’r trosiad olaf yna gan eu hatal rhag gail ail bwynt bonws. Ry’n ni’n bles â’r pump pwynt ond mae digon o waith gyda ni i’w wneud o hyd.

“Mae’n rhaid i ni gadw gweithio ar wella perfformiadau ac adeiladu ar ganlyniadau pwysig.

“Mae’n rhaid talu clod i Benetton. Maent wedi rhoi pwysau arnon ni dwywaith yn olynol nawr ac maent bendant yn dîm sy’n gwella.”

Gyda sgor terfynol o 38-29 fe lwyddodd y Scarlets i sirchau pump pwynt ac atal ail pwynt bonws i Benetton gyda’r trosiad olaf.

Fe fydd y Scarlets yn wynebu Connacht yn Galway prynhawn Sadwrn 22ain Medi cyn dychwelyd i Barc y Scarlets ar ddydd Sadwrn 29ain Medi gan groesawu’r Southern Kings.

Mae tocynnau ar gael nawr o tickets.scarlets.wales