S4C yn comisiynu drama sydd yn olrhain bywyd Ray Gravell

Rob Lloyd Newyddion

Mae S4C wedi comisiynu teyrnged arbennig sydd yn bwrw golwg ar fywyd un o arwyr mwya’ Cymru.

Bydd gwaith ffilmio ar Grav yn cychwyn ddiwedd mis Mehefin. Bydd y ddrama, sydd wedi ei haddasu o’r sioe lwyfan boblogaidd a ddyfeisiwyd gan Owen Thomas, Peter Doran a Gareth John Bale yn Theatr y Torch, yn portreadu bywyd Ray Gravell, un o ffigyrau mwyaf adnabyddus hanes rygbi Cymru.

Bydd y ddrama, sydd wedi ei haddasu o’r sioe lwyfan boblogaidd a ddyfeisiwyd gan Owen Thomas, Peter Doran a Gareth John Bale yn Theatr y Torch, yn portreadu bywyd Ray Gravell, un o ffigyrau mwyaf adnabyddus hanes rygbi Cymru. Yn dilyn ei bortread cofiadwy o Ray Gravell ar y llwyfan, mi fydd yr actor Gareth John Bale yn chwarae’r brif ran. Marc Evans, y cyfarwyddwr blaenllaw sydd wedi gweithio ar raglenni megis The Pembrokeshire Murders, Manhunt ac Y Bomiwr a’r Tywysog, fydd yn cyfarwyddo’r addasiad o’r ddrama i deledu.

Mae S4C wedi comisiynu cwmni Regan Developments, gyda chwmni Tarian Cyf, i gynhyrchu’r rhaglen. Bydd y rhaglen yn cael ei dangos ar S4C ym mis Medi.

Meddai Branwen Cennard, un o gynhyrchwyr Grav: “Mae gweithio ar brosiect o’r math yma, i addasu sioe lwyfan hynod lwyddiannus Owen Thomas i’r sgrin yn brofiad cyffrous tu hwnt. “Mae’r ddrama wreiddiol yn mynd i wraidd yr hyn oedd yn gyrru Grav fel person ac mae’r sioe wedi ennill canmoliaeth unfrydol.

“Wrth addasu o gyfrwng y theatr i gyfrwng ffilm a theledu, mae’r ddrama wedi datblygu’n helaeth. “Ond yr un yw’r stori, ac ry’n ni’n gobeithio y bydd yr haenau gweledol ychwanegol, o dan law’r cyfarwyddwr dawnus, Marc Evans, yn dyrchafu’r cynhyrchiad i lefel hyd yn oed yn uwch.”

Meddai Gwenllïan Gravelle, comisiynydd drama S4C: “Mae’n fraint i gomisiynu drama sydd yn adrodd stori un o arwyr y werin Gymry, Ray Gravell. “Roedd Grav yn ffigwr hynod o adnabyddus; fel arweinydd cryf a chrefftus ar y cae rygbi, ac fel cymeriad hoffus, lliwgar, ond cymhleth, oddi arno.

“Mae ei stori yn un emosiynol ac un sydd wedi taro deuddeg gyda chynulleidfaoedd theatrau ledled Cymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn i weld y sioe yn cyrraedd y sgrin.”