Sam Lousi yn arwyddo cytundeb Scarlets newydd

Rob Lloyd Newyddion

Mae’r Scarlets yn hapus i gyhoeddi bod y chwaraewr ail reng Sam Lousi wedi ymestyn ei aros gyda’r clwb gan arwyddo cytundeb newydd.

Yn chwaraewr ail reng graidd i’r Scarlets, mae Sam sy’n 30 oed wedi creu argraff fawr ers cyrraedd o glwb Super Rugby The Hurricanes yn 2019, gan wneud 30 ymddangosiad.

Chwaraeodd rygbi’r gynghrair i dîm NRL New Zealans Warriors a Super Rugby i Waratahs a Hurricanes cyn symud i Orllewin Cymru. Wedi’i gapio wyth o weithiau i Tonga, gwnaeth Sam ei ymddangosiad rhyngwladol diwethaf yn 2019 yn ystod Cwpan y Byd yn Japan.

Yn gariwr athletaidd gyda sgiliau deinameg, cafodd Sam ei enwi fel ennillydd Chwaraewr y Cefnogwyr ar gyfer mis Ionawr.

Dywedodd Sam: “Rydw i a fy nheulu yn hapus i fod yn aros yng Ngorllewin Cymru. Mae’r garfan yma yn y Scarlets yn datblygu’n dda ac rwy’n edrych ymlaen at weld ble rydym yn mynd.”

Ychwanegodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae Sam yn aelod pwysig o’r garfan y tymor yma ac yn rhan fawr o’n cynllun wrth symud ymlaen. Mae’n athletwr anhygoel gyda sgiliau rhagorol sy’n siwtio’r fath o rygbi i ni eisiau chwarae. Newyddion da yw ei fod wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r Scarlets.”