Scarlets a Choleg Sir Gâr yn dathlu partneriaeth 20 mlynedd

Rob Lloyd Newyddion

Mae’r Scarlets a Choleg Sir Gâr yn dathlu pen-blwydd 20 mlynedd o’u partneriaeth rygbi lwyddiannus.

Lansiwyd academi rygbi coleg yn haf 2000 a’i brif nod oedd sicrhau bod chwaraewyr ifanc yn derbyn cefnogaeth i ddod yn chwaraewyr a phobl o ansawdd.

Ymhlith y chwaraewyr rhyngwladol sydd wedi elwa o academïau’r coleg a’r Scarlets mae dau o chwaraewyr rhyngwladol cyfredol y Scarlets, Samson Lee a Gareth Davies, yn ogystal ag Adam Jones, Aled Davies, Lou Reed, Gavin Evans, Scott Williams, Rob McCusker, Adam Warren a Josh Adams.

O garfan bresennol y Scarlets, mae 18 yn gyn-fyfyrwyr Coleg Sir Gâr ac yn chwaraewyr academi.

Yn gyfan gwbl, mae academi rygbi Coleg Sir Gâr wedi cynhyrchu 38 chwaraewr ar gyfer tîm cyntaf y Scarlets, 11 o uwch chwaraewyr rhyngwladol Cymru ac 13 o chwaraewyr saith ochr Cymru gan gynnwys y capten presennol Luke Treharne.

Coleg Sir Gâr oedd y ganolfan addysg a hyfforddiant gyntaf yn ei ranbarth i gael statws Canolfan Ragoriaeth Academi Scarlets. Hefyd, datblygodd y clwb broses achredu ar gyfer ysgolion a cholegau eraill yn y rhanbarth yn seiliedig ar fodel Coleg Sir Gâr.

Cyflawnir ethos academi Coleg Sir Gâr yn y coleg trwy ddarparu’r adnoddau a’r gefnogaeth broffesiynol orau sy’n cynnwys sesiynau academi gwreiddio pwrpasol o fewn amserlenni myfyrwyr.

Gall chwaraewyr hefyd gael gafael ar gymorth proffesiynol fel dadansoddi chwaraeon, maeth a hyfforddi arbenigol.

Mae capten 7 Cymru, Luke Treharne, hefyd yn gyn chwaraewr academi Scarlets a dderbyniodd raddau A syth yn y coleg ac a aeth ymlaen i fod yn feddyg ochr yn ochr â’i yrfa rygbi.

Dywedodd Luke Treharne: “Ar ôl chwarae rygbi ac astudio ledled y byd, rwy’n dal i edrych yn ôl ar fy amser yng Ngholeg Sir Gâr fel rhai o fy atgofion hapusaf.

“Roedd popeth, o’r profiad yn chwarae rygbi i safon yr addysgu a’r bobl wnes i gwrdd â nhw ar hyd y ffordd yn wych.”

Y tu ôl i’r dalent chwaraeon mae hyfforddwyr coleg hynod brofiadol gan gynnwys Euros Evans, Lee Tregoning, Matthew Williams yn ogystal â hyfforddwr cyflyru Scarlets Josh Rowlands a ffisiotherapydd Scarlets Owain Binding.

Heddiw, mae’r academi rygbi yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod chwaraewyr ifanc yn cael gyrfa uwchradd i’w cefnogi ar ddiwedd eu gyrfa chwarae broffesiynol.

Dywedodd Jon Daniels, rheolwr cyffredinol rygbi Scarlets: “Ers ei sefydlu ym mis Awst 2000 mae perthynas Coleg Sir Gâr ac Academi Scarlets wedi bod, ac yn dal i fod, yn gynllun y mae llawer yn ceisio ei efelychu.

“Gyda ffocws ar ddatblygiad cyfannol yr unigolyn, mae’r bartneriaeth wedi datblygu nifer o chwaraewyr a hyfforddwyr sydd wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus ym maes rygbi ac mewn meysydd eraill.

“I ni, mae’r bartneriaeth gyda Choleg Sir Gâr wedi bod yn biler strategol allweddol yn ein llwybr datblygu enwog a gobeithiwn wrth inni ddechrau yn nhrydydd degawd y bartneriaeth y bydd yn parhau i fynd o nerth i nerth.”

Dywedodd Euros Evans, cyfarwyddwr academi rygbi Coleg Sir Gâr: “Mae dewis chwaraewyr Scarlets y dyfodol yn 16 oed yn dasg anodd iawn, rydym hefyd yn gweithio’n agos gydag Academi’r Scarlets i gefnogi’r chwaraewyr sydd newydd golli allan ar ddetholiad Academi Scarlets.

“Mae academi’r coleg yn rhoi’r gefnogaeth a’r arweiniad sydd eu hangen ar y chwaraewyr hyn i gyflawni eu potensial llawn.

“Yr enghraifft ddiweddaraf o hyn yw chwaraewr rhyngwladol cyfredol Cymru, Josh Adams, a gafodd ei ddewis gan Academi’r Scarlets ar ôl dwy flynedd lwyddiannus gyda ni.”

Yn y llun, o’r chwith i’r dde: Josh Rowlands (hyfforddwr cyflyru), Luke Davies (myfyriwr CSG / chwaraewr academi Scarlets), Euros Evans (cyfarwyddwr academi rygbi coleg), Paul Fisher (hyfforddwr sgiliau academi Scarlets) a Kevin George (rheolwr llwybr datblygu Scarlets ).