Scarlets A i ddechrau her y Cwpan Celtaidd adref yn erbyn Ulster

Kieran Lewis Newyddion

Bydd Scarlets A yn cychwyn eu hymgyrch yn y Cwpan Celtaidd mewn gornest gartref yn erbyn Ulster ar benwythnos 23-25ain o Awst.

Bydd y tîm a gollodd yn y rownd derfynol llynedd yn chwarae’r gêm gyntaf yn Church Bank Llanymddyfri, y cyntaf o saith gêm yn y gystadleuaeth sydd ar ei newydd wedd eleni.

Llynedd, roedd dau Gynhadledd, wedi eu rhannu yn dimooedd Cymreig a Gwyddelig, gyda’r buddugol o bob un yn ennill eu lle yn y rownd derfynol, lle gwelwyd Leinster yn ennill 15-8 yn erbyn y Scarlets ym Mharc y Scarlets.

Y tymor hwn, bydd pob tîm yn cael eu graddio mewn un cynghrair a bydd y ddau dîm ar dop y gynghrair yn cystadlu yn y rownd derfynol ddydd Sadwrn, Hydref 12fed. O ganlyniad i’r ffaith mai dim ond saith gêm sydd yn y gynghrair, bydd pedwar tîm yn chwarae pedwar gêm gartref.

Bydd Richard Kelly yn arwain y Scarlets, gyda chymorth Paul Fisher a Richie Pugh.

Dywedodd Kelly: “Roedd cystadleuaeth tymor diwethaf yn hynod fuddiol wrth helpu nifer o’n chwaraewyr ifanc gamu i’r PRO14 a Chwpan y Pencampwyr.

“Bydd rhai heriau newydd yn ein wynebu fel tîm A eleni gyda Chwpan y Byd a’n uwch-garfan yn cyfrannu’n sylweddol i garfanau rhyngwladol ac 17 o’n chwaraewyr i ffwrdd gyda dyletswyddau rhyngwladol ar hyn o bryd.

“O safbwynt datblygiad chwaraewr, gallai hyn arwain at lawer mwy o gyfloedd gyda’r uwch-dim i’n chwaraewyr datblygol ar wahanol adegau sy’n rhagolwr cyffrous iawn inni o ran datblygiad, ond hefyd wrth olygu fod mwy o botensial i arddangos mwy o chwaraewyr ar hyd ein llwybr yn y gystadleuaeth cynghrair A.

“Gwnaethom ni fwynhau’r gystadleuaeth dymor diwethaf, wrth golli wrth drwch blewyn yn y rownd derfynol ym Mharc y Scarlets yn erbyn tîm cryf Leinster, ond yn bwysicach fyth, gwelom chwaraewyr fel Dan Davis, Josh Helps a Kieran Hardy yn camu i chwarae rhannau allweddol yn uwch-dim y Scarlets.

“Gobeithio y gwelwn ddilyniant tebyg gan fwy o’n talent datblygol y tymor hwn.”

Bydd y Cwpan Celtaidd yn rhedeg ochr yn ochr â rhai o rowndiau cynnar Uwch Gynghrair Grwp Indigo a rownd gyntaf Cwpan Specsavers. Yn ogystal, bydd yn digwydd yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yn Japan.

Bydd rownd agoriadol y Guiness PRO14 yn digwydd ar benwythnos y 27-29ain o Fedi, sy’n golygu y bydd gwrthdaro yng ngêmau’r calendr yn ystod dau benwythnos olaf y gynghrair a’r rownd derfynol.

GEMAU Y CWPAN CELTAIDD 2019

Awst 23 – 25       

Gleision v Leinster

Munster v Gweilch

Scarlets v Ulster Llandovery

Connacht v Dreigiau

Awst 30 – Medi 1    

Leinster v Scarlets

Y Dreigiau v Munster

Ulster v Gleision

Gweilch v Connacht

Medi 6 – 8    

Munster v Leinster

Ulster v Connacht

Dreigiau v Gleision

Scarlets v Gweilch

Medi 13 – 15    

Connacht v Munster

Leinster v Ulster

Dreigiau v Scarlets

Gleision v Gweilch

Medi 20 – 22      

Gweilch v Leinster

Munster v Gleision

Dreigiau v Ulster

Connacht v Scarlets      

Medi 27 – 29   

Leinster v Dreigiau

Scarlets v Munster

Ulster v Gweilch

Gleision v Connacht

Hydref 4 – 6      

Connacht v Leinster

Ulster v Munster

Gleision v Scarlets

Dreigiau v Gweilch

Dydd Sadwrn, Hydref 12          

Rownd derfynol