Tîm dan 18 oed yn croesawu RGC i Barc y Scarlets ddydd Sul 2il o Chwefror ar gyfer rownd nesaf Pencampwriaeth RAG, CG 14:30 – Training Pitch.
Ar ôl dechrau siomedig i’r flwyddyn gyda cholled yn erbyn Gleision Caerdydd, roedd y bechgyn dan 18 oed yn edrych i ad-dalu eu hunain ddydd Mawrth diwethaf yn erbyn y Gweilch yn Aberavon. Ar ôl hanner cyntaf cryf gan y bechgyn mewn coch, fe orlifodd y camgymeriadau yn ystod yr ail hanner a oedd yn caniatáu i’r Gweilch gasglu’r pwyntiau holl bwysig ar y bwrdd.
Mae’r garfan nawr yn edrych ymlaen tuag at y rownd nesaf yn erbyn RGC, sydd hefyd yn dîm aruthrol o gryf ac a fydd yn her yma ym Mharc y Scarlets.
Mae’r garfan yn gweld ychydig o newidiadau o’r gwrthdaro yr wythnos diwethaf, mae Ioan Phillips yn cymryd lle Corum Nott ar yr asgell dde, daw Rhun Phillips i mewn i’r Ganolfan Allanol. Mae’r partneriaid Josh Evans a Josh Phillips yn aros yn eu crysau 10 ac 11.
Mae Archie Hughes yn cymryd lle Luke Davies yn safle’r mewnwr. Dim ond dau newid a welwn yn y blaenwyr gyda Morgan Macrae © yn cymryd lle Lewis Morgan fel bachwr. Mae Casey Williams hefyd yn cymryd lle J Franklin-Cooper fel blaenasgellwr dall.
Tîm dan 18 Scarlets i wynebu RGC, dydd Sul 2il o Chwefror, CG 14:30 – Cae Hyfforddi Parc y Scarlets.
15 Dylan Richards, 14 Ioan Phillips, 13 Rhun Phillips, 12 Eddie James, 11 Josh Evans, 10 Josh Phillips, 9 Archie Hughes, 1 Sam O’Connor, 2 Morgan Macrae ©, 3 Tomas Pritchard, 4 Aaron Howles, 5 Caleb Salmon, 6 Casey Williams, 7 Caine Rees-Jones, 8 Lewis Clayton
Eilyddion: 16 Lewis Morgan, 17 Dylan Smith, 18 Morgan Thomas, 19 Iestyn Richards, 20 Evan Thomas, 21 Luke Davies, 22 Jac Tregoning, 23 Aled Davies
Pob diweddariad draw ar Trydar @ScarletsAcademy .