Scarlets dan 18 yn parhau i chwarae am deitl ar ôl gêm ddramatig yn erbyn y Dreigiau

Menna Isaac Uncategorized @cy

Aeth Scarlets D18 benben yn erbyn y Dreigiau yn Ystrad Mynach mewn gêm a ddaeth i ben mewn gêm gyfartal wefreiddiol 24-24.

Scarlets oedd yn dominyddu’r hanner cyntaf i arwain 19-10 diolch i gais gan y canolwr Rhun Phillips a dau o’r ail reng Aaron Howles. Fodd bynnag, dangosodd y Dreigiau benderfyniad mawr yn ystod yr ail gyfnod i orfodi eu ffordd yn ôl.

Roedd cais pwynt bonws gan y mewnwr Harry Williams yn edrych fel ei fod wedi sicrhau buddugoliaeth i’r Scarlets, dim ond i’r tîm cartref gipio gêm gyfartal yn yr eiliadau oedd yn marw.

Mae’r canlyniad yn golygu bod y Scarlets yn aros yn yr ail safle yn nhabl y Bencampwriaeth ac yn wynebu gêm i benderfynu’r buddugwyr yn erbyn Gleision Caerdydd ym Mharc yr Arfau ddydd Mawrth nesaf.

Gan adlewyrchu ar y perfformiad, dywedodd y prif hyfforddwr Euros Evans: “Fe wnaethon ni chwarae rhywfaint o rygbi rhagorol yn yr hanner cyntaf ac yn llawn haeddu’r egwyl 19-0.

“Er tegwch i’r Dreigiau, fe ddaethon nhw yn ôl yn galed atom ni ond mae bod yn arwain o saith pwynt gyda munud i fynd a pheidio ag ennill y gêm yn siomedig.

“Fodd bynnag, mae’r tri phwynt y gwnaethon ni eu sicrhau oddi cartref yn ein cadw ni yn yr ail safle a bydd buddugoliaeth yr wythnos nesaf yn erbyn y Gleision yn ein gweld ni’n cael ein coroni fel pencampwyr.”

Crynodeb o’r ornest;

8’ CAIS  – Rhun Phillips 0-7

9’ TRO – Josh Phillips 0-14

15’ CAIS – Aaron Howles 0-12

16’ TRO – Josh Phillips 0-14

17’ CAIS  – Aaron Howles 0-19

Hanner Amser – 0-19

55’ CAIS – Dreigiau 5-19

60’ CAIS – Dreigiau 10-19

61’ TRO – Dreigiau 12-19

62’ CAIS – Dreigiau 17-19

68’ CAIS – Harry Williams 17-24

70’ CAIS – Dreigiau 22-24

70’ TRO – Dreigiau 24-24

Sgôr Terfynol 24-24

Bydd Scarlets Dan 18 nawr yn gwynebu Gleision Caerdydd ym Mharc Arfau Caerdydd, CG 19:30, dydd Mawrth 18fed Chwefror, 2020