Bydd y Scarlets yn cynnal seminar datblygu hyfforddwyr ar gyfer holl hyfforddwyr iau y rhanbarth yn y flwyddyn newydd.
Cynhelir y digwyddiad ar nos Fercher, Ionawr 8 ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin o 7-9yh a bydd yn cynnwys siaradwyr fel Cyfarwyddwr Rygbi’r Byd, Phil Davies, bachwr presennol y Scarlets a Chymru Ryan Elias, a fydd yn gwneud sesiwn Holi ac Ateb, Rheolwr Llwybr Datblygu Academi’r Scarlets Gareth Williams yn ogystal â gweithwyr proffesiynol talent o chwaraeon eraill.
Dywedodd Rheolwr Llwybr Academi’r Scarlets, Gareth Williams: “Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal noson fel hon wrth i ni geisio creu cysylltiadau agosach gyda’n clybiau iau. Bydd yn ymwneud â chyflwyno’r hyfforddwyr iau i sut yr ydym am gydweithio yn y dyfodol a hefyd yr elfennau cymorth yr hoffem eu sefydlu i wneud hyn.
“Mae’n argoeli i fod yn noson llawn gwybodaeth gyda Phil yn trafod effaith hyfforddi iau ar draws y gêm fyd-eang, Ryan yn sôn am effaith ei hyfforddwyr iau ar ei yrfa broffesiynol, a hyfforddiant a mewnwelediadau talent gan weithwyr proffesiynol o chwaraeon eraill. ”
“Ein nod yw cael nifer fawr o hyfforddwyr iau i ddod draw a dechrau proses rydyn ni eisiau cymryd rhan ynddi’n fwy rheolaidd wrth i ni werthfawrogi’r effaith maen nhw’n ei chael ar ein chwaraewyr talentog yn y dyfodol.”
Bydd pob clwb sy’n mynychu yn cael ymweliad cymorth hyfforddwr i lunio pecyn cymorth penodol i’r clwb ar gyfer yr hyn y mae’r hyfforddwyr iau yn teimlo sydd ei angen arnynt.
“Rydym am i’r digwyddiad hwn fod yn fan cychwyn i’n perthynas â’n hyfforddwyr clwb iau, felly byddaf yn ymweld â phob clwb sy’n bresennol ac yn eistedd gyda’u timau hyfforddi yn eu hamgylcheddau eu hunain.
“Y rhwydwaith ar draws Gorllewin Cymru yw cryfder ein dyfodol ac mae hyn yn ddechrau ymgysylltu rheolaidd â’r boblogaeth hyfforddi.”
I gofrestru eich diddordeb ewch YMA