Mae’r Scarlets yng Ngogledd Cymru ar gyfer gwersyll ymarfer cyn-dymor ac wedi mwynhau’r diwrnod yn Adventure Parc Snowdon fel rhan o’u aros.
Cymerwyd rhan mewn sawl her fel garfan, yn cynwwys wal dringo, ninja assault course,high wires a padl-fyrddio yn Llanrwst.
Fe deithiwyd i fyny’r Wyddfa hefyd, mynydd uchaf Cymru, i brofi’r olygfa o Ogledd Cymru.
O flaen gêm nos Iau yn erbyn Leicester Tigers yn Welford Road, mae’r Scarlets wedi bod yn ymarfer yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy (llun) ac mae gan gefnogwyr y cyfle i wylio’r sesiwn agored ar fore dydd Mercher o 10yb.