Scarlets i wynebu La Rochelle yn y Parc

vindico Newyddion

Gyda holl gemau rownd chwech Cwpan Pencampwyr Ewrop wedi eu chwarae ry’n ni’n falch iawn cadarnhau y bydd y Scarlets yn wynebu’r Ffrancwyr o La Rochelle yn rownd yr wyth olaf.

Fe fydd y gemau yn cael eu chwarae dros benwythnos y Pasg gyda’r dyddiadau ac amserau penodol yn cael eu cadarnhau yn hwyrach yr wythnos hon.

Nid yw’r gêm yn rhan o’r tocyn tymor ond fe fydd pob daliwr Tocyn Tymor yn cael cyfle i brynu eu tocyn cyn i bopeth fynd ar werth i’r cyhoedd.

Byddwn ni’n cadarnhau’r manylion cyn gynted a phosib.

Diolch am eich cefnogaeth!