Scarlets i wynebu Siarcod Sale yn 16 olaf Ewrop

Rob Lloyd Newyddion

Bydd y Scarlets yn chwarae yn erbyn Siarcod Sale ym Mharc y Scarlets yn y rownd o 16 yng Nghwpan Pencampwyr Heineken.

Cafodd yr enwau eu tynnu prynhawn yma yn ninas Lausanne yn y Swistir gyda’r Scarlets yn wynebu’r Siarcod ond am y pumed tro yn hanes y gystadleuaeth. Enillodd y Scarlets tair allan o bedair gêm a cholli unwaith yn 2017.

Roedd y broses am dynnu enwau’r rownd yr wyth olaf hefyd wedi cymryd lle, gyda’r enillydd o gêm Scarlets-Siarcod i deithio i chwarae yn erbyn enillwyr o La Rochelle-Gloucester.

Tynnu enwau’r 16 olaf

Munster v Toulouse

Gloucester v La Rochelle

Wasps v ASM Clermont

Exeter v Lyon

Leinster v RC Toulon

Bordeaux-Belges v Bristol

Racing v Edinburgh

Scarlets v Sale Sharks

Y gemau i’w chwarae ar y penwythnos o Ebrill 2-4

Rownd yr wyth olaf

Exeter or Lyon v Leinster or RC Toulon

Wasps or ASM Clermont v Munster or Toulouse

La Rochelle or Gloucester v Scarlets or Sale

Bordeaux-Begles or Bristol v Racing 92 or Edinburgh