Disgwylir i gêm Guinness PRO14 y Scarlets yn erbyn Caeredin ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn (cic gyntaf 3yp) fynd yn ei blaen fel y cynlluniwyd.
Rydyn ni wedi bod yn cadw llygad barcud ar ragolygon y tywydd ar gyfer De Cymru y penwythnos hwn ac rydym yn atgoffa cefnogwyr sy’n dod i’r gêm i adael yn gynnar ac i gymryd gofal ychwanegol wrth deithio yn ôl ac ymlaen i Barc y Scarlets.
Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa a bydd unrhyw ddiweddariadau’n cael eu gwneud ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Scarlets ac ar y wefan swyddogol.