Mae EPCR wedi cael gwybod gan RC Toulon ni fyddwn yn cymryd rhan yn rownd 2 o Gwpan y Pencampwyr Heineken yn erbyn y Scarlets, ac felly mae’r gêm wedi’i ganslo.
Er i Bwyllgor Asesiad Risg Meddygol yn fodlon gyda’r gêm i fynd yn ei flaen, a oedd wedi’i threfnu ar gyfer ddoe (Dydd Gwener, 18 o Ragfyr) ym Mharc y Scarlets, roedd y gêm wedi’i gohirio yn dilyn pryderon gan chwaraewyr a staff RC Toulon.
Fel rydym wedi cyhoeddi yn flaenorol, cafodd RC Toulon y cynnig i chwarae’r gêm yma ar ddyddiad hwyrach yn ystod penwythnos Rownd 2, ond ni chafodd y cynnig hwn ei dderbyn.
Yn dilyn y penderfyniad i ganslo, mae Pwyllgor Datrys Canlyniadau wedi cwrdd heddiw (Dydd Sadwrn, 19 o Ragfyr) i benderfynu ar ganlyniad o’r gêm Scarlets v RC Toulon yng Nghwpan y Pencampwyr Heineken, a gêm Cwpan Her rhwng Benetton ac Agen a oedd hefyd wedi’i ganslo.
Roedd y pwyllgor, a oedd yn cynnwys rheolwr EPCR, Vincent Gaillard, aelod bwrdd EPCR, Andrea Rinaldo, rheolwr Covid-19 EPCR, Tom Walsh, prif swyddog ariannol EPCR, Anthony Lepage, a phennaeth llywodraethu a rheoliadau, Liam McTiernan, wedi ystyried holl ffeithiau ynglŷn â’r ddwy gêm.
O ganlyniad i hyn, cyhoeddwyd mai’r Scarlets oedd enillwyr y gêm yn erbyn RC Toulon yn Pool A ac yn derbyn pum pwynt ar ganlyniad o 28-0.
O ganlyniad i’r gêm Benetton v Agen, penderfynodd mai oherwydd Benetton oedd wedi derbyn nifer o brofion positif o Covid-19, nad oedd y gêm yn gallu mynd yn ei flaen. Agen sydd wedi’i chyhoeddi fel yr enillwyr ac wedi derbyn pum pwynt a sgôr 28-0.
Hoffir EPCR egluro ni ystyriwyd bai fel ffactor yn ystod y trafodaethau, a gwnaed penderfyniadau’r pwyllgor gyda’r bwriad o hwyluso cwblhau Cwpan Pencampwyr Heineken a’r Cwpan Her y tymor hwn mewn amgylchiadau digynsail.
Penderfyniadau y Pwyllgor Datrys Canlyniadau
Cwpan y Pencampwyr Heineken Pool A – Scarlets 28 (4 cais wedi’u trosi) RC Toulon 0 pwyntiau – Scarlets 5 RC Toulon 0
Cwpan Her Benetton Rugby 0 Agen 28 (4 cais wedi’u trosi) Pwyntiau – Benetton Rugby 0 Agen 5