Scarlets wedi’i cadarnhau fel y tîm gorau yng Nghymru yn nhabl EPCR

Rob LloydNewyddion

Y Scarlets wedi’i cadarnhau fel y tîm ar frig y tabl yng Nghymru yng Nghwpan Pencampwyr Heineken 2021-22.

Ar ôl gorffen tymor rheolaidd Guinness PRO14 yn y trydydd safle yng Nghynhadledd B byddant yn y bumed safle allan o gynrychiolwyr newydd y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Yn dilyn y rownd derfynol, mae Leinster (1) a Munster (2) yn cael eu rhestru’n awtomatig fel y ddau glwb gorau, gyda’r chwech sy’n weddill yn cael eu rhestru trwy uno’r ddau dabl Cynhadledd.

Ar yr adeg lle roedd clybiau’n hafal ar bwyntiau gemau, yna defnyddiwyd gemau a enillwyd ac yna gwahaniaeth pwyntiau fel y meini prawf i’w gwahanu.

Safleoedd

  1. Leinster 71 o bwyntiau (pencampwyr y gynghrair)
  2. Munster 64 o bwyntiau (ennill 14, gwahaniaeth o bwyntiau +163)
  3. Ulster 64 o bwyntiau (ennill 14, +206)
  4. Connacht 45 o bwyntiau
  5. Scarlets 39 o bwyntiau
  6. Gweilch 36 o bwyntiau (ennill 8, -17)
  7. Rygbi Caerdydd 36 o bwyntiau (ennill 8, -19)
  8. Glasgow Warriors 30 o bwyntiau