Scarlets yn cadarnhau cytundeb Blommetjies

Kieran Lewis Newyddion

Mae’r Scarlets heddiw yn gallu cadarnhau bod Clayton Blommetjies yn ymuno â’r rhanbarth o Cheetahs Rugby yn Ne Affrica.

Fe fydd Blommetjies, 27 mlwydd oed, yn ymuno â Uzair Cassiem o’r Cheetahs wrth ymuno â’r Scarlets ym Mharc y Scarlets dros yr ha far gyfer tymor 2018-19.

Fe ddaeth Blommetjies trwy’r system gyda’r Bulls yn Ne Affrica, gan chwarae ei rygbi ifanc i gyd yno, gan chwarae ei gêm proffesiynol cyntaf yn y Currie Cup. Mae wedi datblygu’n chwaraewr hanfodol yn nhîm y Cheetahs ac mae’n gyfrifol am lawer o lwyddiant y tîm.

Mae wedi chwarae 39 o gemau i’r Cheetahs yn Super Rugby gan sgori chwech cais ac mae wedi cynrychioli De Affrica ar bedwar lefel; Academi Ysgolion, Myfyrwyr, Dan 20 a’r tîm 7 bob ochr.

Mae’r chwaraewr, a anwyd yn Paarl, wedi gwneud argraff yn ei dymor cyntaf yn y Guinness PRO14 gan sgori pedwar cais ac wedi creu pump cais.

Yn ogystal â Blommetjies mae’r Scarlets wedi sicrhau cytundebau newydd i Aaron Shingler, Ryan Elias, James Davies, Rhys Patchell, Wyn Jones, Gareth Davies, Jake Ball, Jonathan Davies a Hadleigh Parkes, Dylan Evans, Jonathan Evans, Lewis Rawlins, Phil Price a Blade Thomson, Uzair Cassiem a Kieron Fonotia a fydd yn ymuno dros yr haf.

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Wayne Pivac;; Ry’n ni’n falch iawn cael croesawu Clayton i’r Scarlets ar gyfer y tymor newydd.

“Mae e’n chwaraewr talentog iawn sy’n gallu chwarae mewn sawl safle yn y linell gefn. Mae e;n opsiwn hyblyg, yn enwedig yn ystod y cyfnod rhyngwladol. Mae e’n rhedwr cyffrous sy’n gallu cicio oddi ar y ddau droed ac mae ganddo’r gallu i ennill gemau.”

“Fe fydd Clayton yn ychwanegiad da wrth ystyried ei brofiad Super Rugby a Guinness PRO14.”

Dywedodd Jon Daniels, Rheolwr Cyffredinol y Scarlets; “Gyda chynifer o chwaraewyr yn absennol yn ystod y cyfnodau rhyngwladol ry’n ni wedi bod yn edrych yn ofalus ar y garfan ac yn awyddus i sicrhau’r cydbwysedd i wneud yn siwr ein bod ni’n gystadleuol trwy’r tymor. Fe fydd chwaraewr o brofiad Clayton yn rhoi cryfder i ni ar draws y tymor.”

Ychwanegodd Blommetjies; “Mae hwn yn bennod cyffrous i fi a’r teulu ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr.

“Pan nes i gwrdd gyda Wayne a Jon roedd yn hawdd gweld pa mor broffesynol y mae’r clwb ar y cae ac oddi ar y cae.

“Maent yn gwneud yn dda yn Ewrop ac yn y Guinness PRO14 ar hyn o bryd ac mae’r posibilrwydd o ddod lan yn erbyn y Scarlets yn y rowndiau ail gyfle mewn ychydig wythnosau yn gyffrosu iawn.”

Gwnewch yn siwr eich bod chi #ynypac gyda Clayton Blommetjies yn 2018-19, Mae tocynnau tymor ar gael nawr. Cliciwch yma am wybodaeth pellach neu cliciwch yma i brynu tocyn tymor.