Scarlets yn cadarnhau’r chwaraewyr a staff sydd yn gadael y clwb

Rob LloydNewyddion

Gall y Scarlets cadarnhau’r chwaraewyr ac aelodau o staff a fydd yn gadael y clwb ar ddiwedd tymor 2023-24.

Bydd ein cefnogwyr yn cael y cyfle i ffarwelio’r chwaraewyr yn dilyn gêm y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Ulster ar Ddydd Sadwrn ym Mharc y Scarlets.

Mae trafodaethau yn parhau gydag aelodau eraill o’r garfan a byddwn yn cadarnhau’r holl chwaraewyr a fydd yn aros ar gyfer tymor 2024-25 dros yr wythnosau nesaf.

Diolch …

Ken Owens

Cyhoeddodd bachwr Cymru a’r Llewod ei ymddeoliad o rygbi ym mis Ebrill, gan gau’r lleni ar yrfa anhygoel. Ymddangosodd Ken 274 o weithiau i’r Scarlets ac roedd yn gapten ar y clwb am wyth tymor, yn cynnwys yr ymgyrch llwyddiannus yn 2016-17. Bydd yn cael ei gofio fel un o’r chwaraewyr gorau i wisgo crys y Scarlets.

Jonathan Davies

Arwr arall o’r gêm fodern, mae ‘Foxy’ wedi chwarae 209 o gemau i’r Scarlets dros dau gyfnod yn Llanelli. Yn gyn gapten, mae ef yn un arall sydd wedi cynrychioli’r clwb ar y lefel uchaf i Gymru ac i’r Llewod (dwywaith). Yn chwaraewr allweddol yn buddugoliaeth PRO12 y Scarlets, mae Jonathan wedi sgori 55 o geisiau i’r clwb.

Scott Williams

Mae’r canolwr rhyngwladol wedi ymddangos 161 o weithiau i’r Scarlets ac yn debyg i Ken a Jonathan, disgleiriodd yn yr ochr a godwyd teitl y PRO12 yn Nulyn. Mae gan Scott 26 o geisiau i’r Scarlets i’w enw, gan gynnwys cais bythgofiadwy yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Her Ewrop pan gurodd y Scarlets La Rochelle – un o ddyddiau mwyaf y clwb.

Dan Jones

Mae ‘Dinky’ wedi chwarae 153 o gemau dros degawd i’r Scarlets, gan gasglu 682 o bwyntiau. Wedi’i fagu yng Nghaerfyrddin, groesodd am gais cofiadwy yn erbyn Toulon yn Nghwpan Pencampwyr yn 2018 ac wedi rhoi sawl gic i achub y gêm. Chwaraeodd rhan fawr yn y tymor 2016-17 pan enillodd y Scarlets y teitl.

Samson Lee

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Samson ei ymddeoliad o rygbi o ganlyniad i anaf yn 31 oed. Wedi’i fagu yn Llanelli, fe ddatblygodd trwy system Academi’r Scarlets, a chwaraeoedd y prop pwerus 164 o gemau i’r Scarlets ar draws 12 tymor.

Wyn Jones

Yn gynnyrch o Glwb Rygbi Llanymddyfri, mae Wyn wedi ymddangos 136 o weithiau i’r Scarlets ers ei gêm gyntaf yn 2014. Yn chwaraewr allweddol arall a oedd yn gyrru’r ochr yn 2017, ei wobr oedd crys rhif un Cymru a’r Llewod.

Johnny McNicholl

Ffarweliodd J-Mac â’r Scarlets ym mis Mawrth er mwyn ymuno a’i gyn glwb Crusaders yn Seland Newydd. Croesodd am 57 o geisiau yn ystod ei 130 o gemau, yn cynnwys y gais ar ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Leinster.

Kieran Hardy

Ymunodd Kieran a’r grwp 100 cap yn ddiweddar pan arweiniodd yr ochr mas i’r car yn erbyn Glasgow. Ymddangosodd am y tro cyntaf i’r Scarlets yn 2014 ar ôl datblygu trwy’r Academi. Mae’r mewnwr rhyngwladol wedi sgori 25 o geisiau yn lliwiau’r Scarlets. Bydd Kieran yn ymuno â’r Gweilch yn yr haf.

Ryan Conbeer

Mae’r asgellwr o Saundersfoot wedi bod yn rhan o’r garfan ers 2016 ac wedi sgori 33 o geisiau yn ystod ei 78 ymddangosiad i’r Scarlets.

Steff Thomas

Yn wreiddiol o Gastell Newydd Emlyn, mae Steff wedi ymddangos 58 o weithiau i’r Scarlets ers ei ymddangosiad cyntaf yn 2017 ar ôl datblygu trwy system Academi’r Scarlets. Mae Steff yn ymuno â’r Gweilch tymor nesaf.

Iwan Shenton

Mae’r chwaraewr rheng ôl wedi ymddangos 12 o weithiau ers ymuno â’r clwb o Met Caerdydd yn 2022. Mae Iwan ar log ar hyn o bryd gyda’r tîm Gynghrair Saesneg Ampthill.

Eduan Swart

Mae’r bachwr, a ymunodd o’r tîm De Affrig y Lions, wedi chwarae pum gêm i’r Scarlets ers cyrraedd ym mis Rhagfyr, a sgoriodd y gais munud olaf i ennill y gêm yn erbyn Benetton.

Joe Jones

Ymunodd y prop pen tynn profiadol yn mis Tachwedd o Sale Sharks. Mae Joe wedi gwneud wyth ymddangosiad.

Sara Davies (rheolwr tîm)

Penodwyd Sara yn rheolwr tîm y Scarlets yn 2018 ac mae wedi chwarae rhan allweddol fel rhan o staff ystafell gefn Parc y Scarlets.

Rhys Jones (hyfforddwr cryfder a chyflyru)

Mae Rhys wedi gweithio yn nhîm cryfder a chyflyru’r Scarlets ers 16 mlynedd, gan fynd yn ôl i’r dyddiau olaf ar Barc y Strade.

Academi

Hoffem hefyd ddymuno’r gorau i’r dyfodol i Lewis Morgan (5 ymddangosiad hŷn), Luca Giannini (4 ymddangosiad hŷn), Callum Williams ac Iestyn Gwilliam o’n Hacademi Hŷn wrth iddynt adael y clwb.

Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Mae’n gyfnod anodd ac emosiynol wrth i ni ffarwelio â chwaraewyr a staff gan gynnwys rhai o’r Scarlets gwych a fydd yn cael eu cofio fel arwyr y clwb.

“Hoffem ddiolch i bob chwaraewr a phob aelod o staff am eu gwaith, balchder a’r ymrwymiad y maent wedi’i ddangos i’r Scarlets yn ystod eu cyfnod yma. Gallant i gyd fod yn falch o’r ffordd y maent wedi cynrychioli’r clwb hwn a dymunwn yn dda iddynt i gyd am beth bynnag y ddaw nesaf.”

#OnceAScarlet