Scarlets yn cadarnhau’r chwaraewyr sy’n gadael ar ddiwedd y tymor 2020-21

Gwenan Newyddion

Mae’r Scarlets yn cadarnhau bydd y chwaraewyr canlynol yn gadael y clwb ar ddiwedd y tymor 2020-21.

Ar ddiwedd tymhorau blaenorol, mae cyflwyniad ar gyfer y chwaraewyr sy’n gadael yn cael ei wneud ar ddiwedd ein gêm gartref ddiwethaf o’r ymgyrch, ond yn anffodus oherwydd cyfyngiadau Covid nad yw hynny’n bosib eleni.

Yn hytrach, cafodd y chwaraewyr seremoni ffarwelio eu hun yn dilyn gêm Cwpan yr Enfys yn erbyn Gleision Caerdydd ar ddydd Sadwrn.

Dywedodd cadeirydd gweithredol y Scarlets Simon Muderack: “Yn anffodus rydym yn ffarwelio chwaraewyr bob blwyddyn sydd wedi rhoi cymaint i’r Scarlets yn ystod eu hamser yma ac rwy’n siŵr fase ein cefnogwyr wedi hoffi bod yma i ddweud hwyl fawr a rhoi diolch iddyn nhw.

“Mae Werner yn ymddeol, gan ddilyn gyrfa anhygoel; mae Jake, Ed a Paul yn teithio nôl adref i Awstralia, wrth i’r gweddill cymryd cyfleoedd newydd ac rydym yn dymuno’r gorau iddyn nhw gyd a rhoi diolch am bopeth maen nhw wedi gwneud i’r Scarlets.

“Diolch yn fawr i chi gyd.” 

Jake Ball

Ar ôl 134 o ymddangosiadau yn yr ail reng dros naw tymor i’r Scarlets, mae Jake am deithio nôl adref i fod gyda’i deulu yn Awstralia.

Werner Kruger

Mae’r prop pen tynn yn ymddeol ar ôl dros 100 o ymddangosiadau i’r Scarlets gan ychwanegu at yr un garreg filltir cyrhaeddodd yn Super Rugby a’r Currie Cup.

Paul Asquith

Mae Paul yn dychwelyd i Awstralia ar ôl treulio pedair blynedd gyda’r Scarlets. Mae’r cyn chwaraewyr saith bob ochr i Awstralia wedi chwarae mewn 79 o gemau gan sgori 17 o geisiadau.

Paul Asquith and Ed Kennedy with their framed Scarlets jerseys

Uzair Cassiem

Mae’r wythwr o Dde Affrica wedi treulio tair blynedd yn Llanelli, gan wneud 56 o ymddangosiadau i’r clwb ac wedi ennill cefnogaeth y chalonnau’r cefnogwyr yn ystod ei amser yma.

Dylan Evans

Mae’r prop a ganed yn Awstralia ond yn gymwys i chwarae i Gymru wedi ymddangos mewn 56 o gemau ers iddo gyrraedd yma yn 2015. Dros y misoedd diwethaf mae Dylan wedi bod ar fenthyg i Glasgow.

Ed Kennedy

Mae’r chwaraewr rheng ôl sy’n wreiddiol o Awstralia wedi chwarae mewn 40 o gemau i’r Scarlets ar draws pedwar tymor. Yn debyg i Paul, bydd y chwaraewr 26 oed yn teithio yn ôl i’w gartref yn Awstralia ar ddiwedd y tymor.

Tom Phillips

Mae Tom, sy’n gyn-gapten ar Gymru d20, wedi chwarae 27 o gemau i’r Scarlets ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn 2015.

Jac Morgan

Mae’r chwaraewr rheng ôl wedi arwyddo cytundeb gyda’r Gweilch, ac wedi chwarae o fewn 20 o gemau ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf yng ngêm Cwpan Her yn erbyn Gwyddelod Llundain yn 2019.

Osian Knott

Mae Osian, sydd wedi’i gapio i Gymru d20 fel canolwr, wedi arwyddo cytundeb i’r Gweilch ar gyfer y tymor nesaf.

Pieter Scholtz

Arwyddwyd ym mis Tachwedd oherwydd anafiadau, ac mae’r prop pen tynn o Dde Affrica wedi chwarae wyth gêm yng nghrys y Scarlets.

Joe Miles

Mae’r chwaraewr rheng ôl wedi gwneud dau ymddangosiad i’r Scarlets ers ymuno yn 2019.

Will Homer

Arwyddodd cytundeb o Jersey ar ddechrau’r tymor, mae Will wedi gwneud 10 ymddangosiad i’r Scarlets yn ystod yr ymgyrch 2020-21.

As well as the 12 players, strength and rehabilitation coach Sam Handy is also saying his farewell at the end of the season.