Scarlets yn cefnogi boicot cyfryngau cymdeithasol ac ymgyrch Draw the Line BT

Rob Lloyd Newyddion

Bydd y Scarlets, ynghyd tri chlwb proffesiynol arall yng Nghymru, yn sefyll wrth ochr clybiau a chyrff chwaraeon wrth gymryd rhan mewn boicot o gyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos.

Lansiwyd y camau cyntaf o’r ymgyrch a enwyd ‘Draw the Line’ gan ein partneriaid BT i frwydro yn erbyn camdriniaeth ar-lein, casineb a gwahaniaethu ar gyfryngau cymdeithasol.

Bydd Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymraeg, y Brif Gynghrair, Cynghrair Pêl-droed Saesneg, Cymdeithas Pêl-droed yr Alban, Cynghrair Pêl-droed broffesiynol Albanaidd, Uwch Gynghrair Saesneg a’r Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (gan gynnwys 18 sir dosbarth cyntaf) hefyd yn cymryd rhan yn y boicot.

Fel dangosiad o undod, ni fydd y Scarlets, Gleision Caerdydd, Dreigiau a’r Gweilch yn cyhoeddi unrhyw cynnwys ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol swyddogol o 15:00 ar ddydd Gwener, Ebrill 30 i 23:59 ar ddydd Llun, Mai 3.

Bydd gwefan y rhanbarth dal i weithio yn ystod yr amser hwn ac efallai fe dderbyniwch gysylltiad digidol wrthym.

Dywedodd cadeirydd gweithredol y Scarlets Simon Muderack: “Mae cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn ddyfais ddefnyddiol iawn i’n helpu cadw mewn cysylltiad gyda’n cefnogwyr yn ystod amser lle nad ydyn yn gallu dod i’r stadiwm.

“Er hyn, fel clwb nad ydyn yn goddef unrhyw fath o gasineb tuag at ein chwaraewyr, hyfforddwyr ac aelodau o staff. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn teimlo’n gryf tuag at. Rydym yn falch iawn o’r cysylltiad agos sydd gyda ni ac ein cefnogwyr ac nad ydyn am i hyn cael ei ddifetha gan y bobl sydd yn credu ei fod yn dderbyniol i bostio negeseuon annerbyniol ar gyfryngau cymdeithasol.

“Rydym yn canmol ein partneriaid yn BT Sport am gymryd y cam yma ac rydym yn falch iawn i sefyll wrth ei ochr nhw, a’r clybiau eraill a’r holl sefydliadau a chyrff chwaraeon sydd yn cefnogi’r ymgyrch.”

Mae unrhyw berson gyda chyfrif gallu helpu i greu safle diogel ar-lein trwy wneud newidiadau bach.

BT has a successful, long-standing relationship with Welsh professional rugby and is the sole joint sponsor of the four Welsh sides.  BT has continued its support and investment into the professional game in Wales with a new three-year sponsorship deal with the Scarlets, Ospreys, Cardiff Blues and Dragons that runs until September 2023 and will see BT sponsor the four regions for nine consecutive seasons.