Mae’r Scarlets yn hedfan allan i Dde Affrica i baratoi am ailddechreuad y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Bydd y tîm yn chwarae Cell C Sharks yn Jonsson Kings Park yn Durban ar Ddydd Sadwrn cyn teithio i Highveldt i wynebu’r Vodacom Bulls yn Pretoria.
Siaradodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel gyda’r wasg cyn i’r garfan dechrau eu taith. Dyma beth oedd ganddo i’w weud.
Sut mae’r paratoadau wedi bod?
“Rydym wedi cael cwpl o wythnosau da o ymarfer gan weithio ar bethau a wedi cael y cyfle i weld chwaraewyr yn chwarae yng ngemau datblygedig, rhai gwynebau newydd i ni hefyd. Mae’r daith yma wedi dod rownd yn gloi, yn wreiddiol nad oeddwn yn trefnu i fynd, ond cyn y gêm yn erbyn Leinster cawsom wybod byddwn yn mynd felly i ni wedi gorfod trefnu pethau yn gyflym, ond byddwn ar yr awyren yfory ac yn edrych ymlaen at fynd.
“Mae’n gyfle da i’r gystadleuaeth ein bod gallu mynd i Dde Affrica, mae’n gyffrous i fynd yna a gyda gêm y Sharks gynta’ yn stadiwm Kings Park bydd hi’n brofiad wych i bawb. Dyma fydd y tro cyntaf iddyn nhw i gynnal gêm URC felly fydd hi’n ddiwrnod mawr.”
Ydy’r chwaraewyr a oedd yn rhan o garfan Cymru am gemau’r Hydref yn mynd?
“Ydyn. Ken ydy’r unig un sydd ddim yn dod, nad yw’n ymarfer ar hyn o bryd a sai’n credu fydd Ken yn ffit i fod yn rhan o’r ymgyrch Ewropeaidd. Cawn weld ei sefyllfa ar ôl Nadolig.
“Mae’r bois (rhyngwladol) eraill yn teithio gyda ni yfory. Byddwn yn edrych ar y gêm wythnos yma (yn erbyn Sharks), bydd rhaid yn chwarae, a rhai ddim. Mae hefyd sawl un yn dychwelyd o anaf fel Josh Macleod a Tomas Lezana, dw i’n edrych ymlaen at weld y bois ar y daith yma.”
Ydy Rhys Patchell yn rhan o’r garfan?
“Mae Rhys yn teithio gyda ni, mae wedi cymryd amser i ddod nôl yn gyfarwydd â phethau. Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd iddo o ran anafiadau, chwaraeodd 60 munud yn erbyn y Dreigiau a 40 penwythnos diwethaf (yn erbyn Gweilch A). Mae agweddau o’i gêm fydd Rhys eisiau ymarfer, ond braf yw ei weld nôl ar y cae. Mae ei dalent yn amlwg, mae jyst angen iddo gael mwy o amser ar y cae.”
Beth am yr her o wynebu timau De Affrig ar tomen eu hun?
“Mae’r pedwar tîm sydd wedi dod i mewn i’r gystadleuaeth yn ychwanegu dwyster a safon i’r gynghrair. Dros y 10-15 mlynedd diwethaf rydym wedi gweld eu gallu ac yn ymwybodol o’r her o’n blaenau. Rydym wedi hyfforddi’n barod ar gyfer y sialens corfforol ar Ddydd Sadwrn. Y peth mwyaf i ni yw ein bod yn llwyddo gyda’r strwythur a dangos ein doniau hefyd.”