Scarlets yn croesawu nôl Tomas Lezana ar gyfer gêm Bulls

Rob Lloyd Newyddion

Chwaraewr rhyngwladol yr Ariannin Tomas Lezana sy’n dychwelyd o anaf ar gyfer ail gêm y Scarlets yn Ne Affrica, yn erbyn Vodacom Bulls yn Pretoria ar Ddydd Gwener (17:10 DU; BBC Wales).

Nad yw Lezana wedi chwarae ers pigo i fyny anaf i’w bigwrn yn ystod gêm golledig yn erbyn Bordeaux ym mis Ionawr ac mae wedi’i enwi fel un o wyth newid i’r tîm cychwynol.

Yn y tri ôl, mae Ioan Nicholas sydd wedi dychwelyd o anaf ac yn cymryd lle Tom Rogers sydd wedi’i anafu, gyda Ryan Conbeer yn dod i mewn yn lle Corey Baldwin ar yr asgell chwith.

Johnny Williams a’r capten Scott Williams sydd yn parhau’r bartneriaeth yng nghanol cae am y pedwerydd wythnos yn olynol, tra fod Rhys Patchell wedi gwella ac yn cychwyn fel maswr ac yn partneri â’r mewnwr Dane Blacker.

Yn y rheng flaen, Kemsley Mathias sydd yn dechrau fel prop pen rhydd am ei ddechreuad cyntaf yn y gystadleuaeth, wrth i Javan Sebastian dod i mewn yn lle Samson Lee sydd wedi’i anafu.

Sam Lousi a Jac Price sy’n parhau yn yr ail reng, ac mae yna newidiadau i’r rheng ôl. Aaron Shingler sydd wedi’i enwi ar yr ochr dywyll, ac mae Lezana yn cymryd safle Dan Davis ar yr ochr agored wrth i Blade Thomson newid i wythwr a Sione Kalamafoni ar y fainc.

Mae yna croeso cynnes i brop rhyngwladol Rob Evans, sydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ers derbyn anaf yn ystod y Gweilch yn y flwyddyn newydd. Y clo Morgan Jones sydd wedi’i enwi ar y fainc.

Dyweodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae’r Bulls yn amlwg yn ochr gryf, gyda sawl chwaraewr rhyngwladol, a pac corfforol. Siaradwn wythnos diwethaf am ba mor gorfforol yw’r timau De Affrig, ac mae hynny’n man cychwyn i ni, mae hefyd ganddyn nhw olwyr cyflym sy’n glinigol iawn pan yn cael y cyfle. Mae rhaid cyrraedd eu lefel nhw yn gorfforol, a peidio cicio’n rhydd a chyffroi gormod gyda’r bel. Roedd agweddau da iawn yn ein chwarae wythnos diwethaf pan yn cudio yn y bel.”

Scarlets v Vodacom Bulls (Dydd Gwener, Mawrth 18; 17:10 UK BBC Wales)

15 Ioan Nicholas; 14 Steff Evans, 13 Johnny Williams, 12 Scott Williams (capt), 11 Ryan Conbeer; 10 Rhys Patchell, 9 Dane Blacker; 1 Kemsley Mathias, 2 Daf Hughes, 3 Javan Sebastian, 4 Sam Lousi, 5 Jac Price, 6 Aaron Shingler, 7 Tomas Lezana, 8 Blade Thomson.

Eilyddion: 16 Shaun Evans, 17 Rob Evans, 18 Harri O’Connor, 19 Morgan Jones, 20 Sione Kalamafoni, 21 Archie Hughes, 22 Sam Costelow, 23 Joe Roberts.

Wedi’u hanafu

Samson Lee (Achilles), Tom Rogers (calf), Marc Jones (calf), WillGriff John (back), Josh Macleod (hamstring), Ken Owens (back), Tom Price (ankle), Tom Phillips (knee), James Davies (concussion), Leigh Halfpenny (knee), Lewis Rawlins (concussion).

Ddim ar gael oherwydd dyletswyddau rhyngwladol

Johnny McNicholl, Liam Williams, Jonathan Davies, Wyn Jones, Ryan Elias, Kieran Hardy, Gareth Davies.