Deuawd y Llewod Gareth Davies a Ken Owens sydd wedi’u enwi yn XV y Scarlets ar gyfer y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar Ddydd Sul yn y drydedd rownd o’r gystadleuaeth yn erbyn Munster ym Mharc y Scarlets (2yp).
Mae’r prop Wyn Jones wedi’i enwi ymysg yr eilyddion wrth i’r triawd paratoi am eu ymddangosiad cyntaf ers y daith i Dde Affrica dros yr haf.
Davies ydy’r unig newid i olwyr y Scarlets wrth i’r un â gurodd yr Emirates Lions paratoi am i chwarae. Bydd Johnny McNicholl, Tom Rogers a Steff Evans yn cyfuno eto fel y tri ôl, wrth i’r capten Jonathan Davies a Scott Williams parhau eu partneriaeth yng nghanol cae. Gareth Davies sydd yn ymuno â Sam Costelow fel ein haneri.
Yn y rheng flaen, mae Owens yn cyfuno gyda Rob Evans a Samson Lee gan chreu rheng flaen o chwaraewyr rhyngwladol. Mae Lee wedi newid safle gyda WillGriff John pel prop pen tynn.
Dyma fydd ymddangosiad cyntaf Lloyd Ashley yn yr ail reng, tra bod Aaron Shingler wedi gwella o’i anaf i’w gefn fe fydd yn safle’r clo. Am y drydedd tro yn olynol, bydd y rheng ôl yn dangos Blade Thomson, Dan Davis a Sione Kalamafoni.
Ryan Elias, John a Kieran Hardy sydd wedi symud i’r fainc o’r XV o benwythnos diwethaf, ac mae yna croeso cynnes i Johnny Williams sydd wedi gwella o anaf i’w ysgwydd a gafwyd yn ystod y gêm golledig Ewropeaidd yn erbyn Sale Sharks ym mis Ebrill.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae Munster yn dîm 80 munud felly mae’n bwysig ein bod yn cyrraedd eu lefel nhw trwy gydol. Bydd eu tîm yn barod i fynd ac yn gorfforol iawn. Dyna’r her i ni, ac yn parchu hynny gan wybod bydd rhaid i ni gamu i fyny i’r sialens wythnos yma.”
Scarlets v Munster (Parc y Scarlets; 14:00; S4C/Premier Sports)
15 Johnny McNicholl; 14 Tom Rogers, 13 Jonathan Davies (capt), 12 Scott Williams, 11 Steff Evans; 10 Sam Costelow, 9 Gareth Davies; 1 Rob Evans, 2 Ken Owens, 3 Samson Lee, 4 Aaron Shingler, 5 Lloyd Ashley, 6 Blade Thomson, 7 Dan Davis, 8 Sione Kalamafoni.
Reps: 16 Ryan Elias, 17 Wyn Jones, 18 WillGriff John, 19 Tom Price, 20 Shaun Evans, 21 Kieran Hardy, 22 Dan Jones, 23 Johnny Williams.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Liam Williams (appendix), Tom Phillips (knee), Sam Lousi (knee), Josh Macleod (Achilles), Rhys Patchell (calf), James Davies (concussion), Leigh Halfpenny (knee), Corey Baldwin (foot), Tomi Lewis (knee), Tom Prydie (foot), Carwyn Tuipulotu (finger), Iestyn Rees (ankle).
Ewch i [email protected] neu ffoniwch 01554 292939 am docynnau.