Scarlets yn edrych ymlaen at gêm nos Wener

Menna IsaacNewyddion

Mae’r Scarlets, heb y chwaraewyr rhyngwladol, yn teithio i Dde Affrica heddiw ar gyfer gêm nos Wener yn erbyn Southern Kings yn y Guinness PRO14.

Yn dilyn siom y ddwy rownd agoriadol yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop, gan golli i Racing 92 a Chaerlyr, mae sylw’r Scarlets yn awry n dychwelyd at gystadleuaeth y Guinness PRO14 a chadw’r ail safle yn Adran B.

Mae’r garfan yn teithio u Dde Affrica heddiw heb y deuddeg chwaraewr sydd wedi eu henwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Cyfres yr Hydref yn ogystal â grwp o chwaraewyr sydd wedi eu hanafu, gan gynnwys James Davies, Aaron Singler a Tom Prydie. Nid yw’r canolwr Kieron Fonotia ar gael chwaith oherwydd gwaharddiad.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm yn erbyn Southern Kings dywedodd Wayne Pivac; “Mae’n mynd i fod yn her dda i’r bois sydd gyda ni ac ry’n ni’n dymuno pob llwyddiant i’r bois rhyngwladol.

“Ry’n ni’n gwybod y bydd yn rhaid i ni chwarae’n dda a chael mwy o feddiant a thiriogaeth i wneud pethau’n haws ar ein hunain.”

Fe fydd y gêm yn fyw ar Premier Sports nos Wener 26ain Hydref, cic gyntaf 19:00 (amser DU).