Mae Liam Williams wedi dychwelyd i ochr y Scarlets ar gyfer gêm Dydd San Steffan yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Rygbi Caerdydd ym Mharc yr Arfau (15:00; BBC Wales).
Collodd y chwaraewr rhyngwladol y bloc agoriadol o gemau ar ôl cael llawdriniaeth, ond ar ôl dychwelyd i gynrychioli ei wlad yn ystod Gemau’r Hydref, bydd y Llew yng nghrys y Scarlets ar Ddydd Sul.
Bydd Williams yn camu i mewn i safle’r cefnwr o fewn tîm sy’n dangos pedwar newid o’r tîm a ddewiswyd ar gyfer y gêm Cwpan Pencampwyr yn erbyn Bordeaux a gohiriwyd.
Johnny McNicholl a Ryan Conbeer sydd wedi’u henwi ar yr asgell. Mae Steff Evans wedi derbyn anaf i’w bigwrn yn ystod ymarferion yr wythnos hon.
Jonathan Davies sydd yn gapten ar yr ochr ac yn bartner unwaith eto i’r chwaraewr rhyngwladol Scott Williams yng nghanol cae.
Dan Jones yn cychwyn yn safle’r maswr ac yn cyd-weithio â’r Llew Gareth Davies. Anafwyd Sam Costelow yn ystod ymarferion sydd wedi’i gadw allan o’r tîm.
Yn y rheng flaen mae Rob Evans, Ryan Elias a Javan Sebastian sydd wedi derbyn ei gap rhyngwladol cyntaf i’r Alban, gyda Sam Lousi a Tom Price yn cwblhau’r ail reng.
Y blaenasgellwr Josh Macleod bydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb ers anafu ei Achilles ym mis Chwefror.
Mae Macleod wedi’i enwi ar yr ochr agored yn y rheng ôl sy’n cynnwys Blade Thomson a Sione Kalamafoni.
Ar y fainc, mae’r prop pen tynn 21 oed Harri O’Connor yn barod i wneud ei ymddangosiad cyntaf yn y bencampwriaeth. Wyn Jones, Marc Jones, Aaron Shingler a’r chwaraewr rheng ôl i’r Pumas Tomas Lezana sy’n cwblhau’r eilyddion i’r blaenwyr.
Chwaraewr rhyngwladol i Gymru Rhys Patchell sy’n paratoi i wneud ei ymddangosiad cystadleuol cyntaf ers Hydref 2020 ar ôl cael ei enwi fel eilydd ymysg Kieran Hardy ac Ioan Nicholas.
Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Mae gohirio’r pedair gêm diwethaf wedi ein siomi, yn enwedig gan ein bod mewn safle da nôl ym mis Tachwedd. Rwy’n dychmygu fydd y ddau ochr yn dechrau’n araf, ond dyna realiti’r peth. Y peth pwysicaf i ni yw ein bod yn barod achos mae’r darbis yma’n bwsyig o ran ein tymor ac i Ewrop. Mae llawer yn dibynnu ar ganlyniad y gemau yma.”
Scarlets v Rygbi Caerdydd (Dydd Sul, Rhagfyr 26; 15:00 BBC Wales. Premier Sports)
15 Liam Williams; 14 Johnny McNicholl, 13 Jonathan Davies (capt), 12 Scott Williams, 11 Ryan Conbeer; 10 Dan Jones, 9 Gareth Davies; 1 Rob Evans, 2 Ryan Elias, 3 Javan Sebastian, 4 Sam Lousi, 5 Tom Price, 6 Blade Thomson, 7 Josh Macleod, 8 Sione Kalamafoni.
Eilyddion: 16 Marc Jones, 17 Wyn Jones, 18 Harri O’Connor, 19 Aaron Shingler, 20 Tomas Lezana, 21 Kieran Hardy, 22 Rhys Patchell, 23 Ioan Nicholas.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Ken Owens (back), Dan Davis (pectoral muscle), Tom Phillips (knee), Josh Helps (Achilles), James Davies (concussion), Leigh Halfpenny (knee), Corey Baldwin (foot), Tomi Lewis (knee), Lewis Rawlins (concussion), Harri Williams (ankle), Johnny Williams (calf), Joe Roberts (knee), Tyler Morgan (calf), Tom Rogers (hamstring), Sam Costelow (shoulder), Steff Evans (ankle), WillGriff John (ankle).