Scarlets yn enwi ochr i wynebu Leinster

Rob Lloyd Featured

Mae Tom Rogers ac Aaron Shingler yn dychwelyd o’u hanafiadau i gymryd eu lle yn nhîm XV y Scarlets i wynebu Leinster yn rownd saith o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT ym Mharc y Scarlets ar nos Wener (19:35; BBC Wales & Premier Sports).

Bydd Rogers yn cychwyn ar yr asgell yn dilyn anaf i’w llinyn y gar, wrth i’r chwaraewr rheng ôl profiadol Shingler chwarae ei gêm gyntaf yn yr ymgyrch yn dilyn anaf i’r penglin. Mae pum newid i’r tîm a wnaeth cymryd i’r cae yn Galway wythnos diwethaf.

Yn ymuno â Rogers yn y tri ôl mae Johnny McNicholl a Ryan Conbeerm sy’n ennill ei 50fed cap i’r Scarlets.

Bydd Steff Evans yn parhau ei bartneriaeth gyda’r capten Jonathan Davies yng nghanol cae, wrth i Dan Jones cychwyn fel maswr. Mewnwr y Llewod a Chymru Gareth Davies bydd yn cychwyn yn crys rhif naw ar ôl colli mas yn erbyn Connacht.

Yr unig newid ymysg y pum blaenwr yw’r bachwr Daf Hughes sydd yn dod i mewn yn lle Ken Owens – un o saith chwaraewr sydd ddim ar gael oherwydd dyletswyddau rhyngwladol. Yn ymuno â Hughes yn y rheng flaen mae Steff Thomas a Harri O’Connor, gyda Jac a Tom Price wedi’u henwi fel cloeon.

Y newid arall sydd yn ein blaenasgellwyr, gyda Shingler yn cymryd lle Macleod. Dan Thomas, a gafodd perfformiad da yn erbyn Connacht, sy’n parhau ar yr ochr agored wrth i’r cariwr gorau yn y bencampwriaeth, Sione Kalamafoni, cychwyn fel wythwr.

Ar y fainc, mae’r mewnwr 19 oed Archie Hughes.

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Yn amlwg bydd pobl yn ein amau yn erbyn Leinster, ond mae hyn yn gyfle da i ni rhoi popeth ati. Rydym yn deall beth sydd o’n blaenau. Rydym yn ymwybodol o’u cryfderau. Mi fydd hi’n her fawr i ni, ond rydym yn hyderus fe allwn torri nhw i lawr.”

Scarlets v Leinster ym Mharc y Scarlets ar Ddydd Gwener, Hydref 28 (19:35; BBC Wales & Premier Sports)

15 Johnny McNicholl; 14 Tom Rogers, 13 Steff Evans, 12 Jonathan Davies (capt), 11 Ryan Conbeer; 10 Dan Jones, 9 Gareth Davies; 1 Steff Thomas, 2 Daf Hughes, 3 Harri O’Connor, 4 Jac Price, 5 Tom Price, 6 Aaron Shingler, 7 Dan Thomas, 8 Sione Kalamafoni.

Eilyddion: 16 Shaun Evans, 17 Kemsley Mathias, 18 WillGriff John, 19 Morgan Jones, 20 Iwan Shenton, 21 Archie Hughes, 22 Rhys Patchell, 23 Corey Baldwin.

Ddim ar gael oherwydd anaf/gwaharddiad

Sam Lousi, Vaea Fifita, Wyn Jones, Scott Williams, Blade Thomson, Johnny Williams, Ioan Nicholas, Tomás Lezana, Phil Price, Lewis Rawlins, Joe Roberts, Carwyn Tuipulotu, Callum Williams, Samson Lee, Griff Evans.

Ddim ar gael oherwydd dyletswydd rhyngwladol

Ken Owens, Ryan Elias, Josh Macleod, Sam Costelow, Dane Blacker, Leigh Halfpenny, Kieran Hardy.