Scarlets yn enwi tîm rhyngwladol ar gyfer y gêm yn erbyn Caerfaddon

Kieran Lewis Newyddion

Fe fydd ail gêm gyfeillgar yr haf yn cymryd lle ar y Rec nos Wener, 24ain Awst, gyda’r Scarlets yn wynebu tîm Caerfaddon.

Dechreuodd tymor y Scarlets gyda buddugoliaeth dros Fryste yn y glaw ym Mharc Caeerfyrddin penwythnos diwethaf gyda’r gêm yn erbyn Caerfaddon yn gyfle olaf i Wayne Pivac a’i hyfforddwyr weld chwaraewyr yn mynd trwy eu pethau cyn rownd agoriadol y Guinness PRO14 penwythnos nesaf.

Does dim llai na tri ar ddeg chwaraewr rhyngwladol yn nhîm cychwynol y Scarlets gyda’r Llew Jonathan Davies yn arwain y tîm. Mae capten y clwb Ken Owens wedi ei enwi ar y fainc ac mae’n un o ddau chwaraewr rhyngwladol ymhlith yr eilyddion, ynghyd â Werner Kruger.

Daw Davies yn ôl i’r cae yng nghrys y Scarlets wedi cyfnod hir ar yr ystlys yn gwella o anaf i’w droed, a ddioddefodd yn erbyn Awstralia yng Nghyfres yr Hydref y llynedd.

Fe fydd Kieron Fonotia, Sam Hidalgo-Clyne a Uzair Cassiem yn dechrau i’r Scarlets am y tro cyntaf ar ôl chwarae eu gemau cyntaf penwythnos diwethaf gyda Blade Thomson yn chwarae ei gêm gyntaf i’r rhanbarth.

Dywedodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac; “Fe wnaethon ni ddysgu lot o’r gêm yn erbyn Bryste wythnos diwethaf, er gwaethaf yr amodau gwael ac fe fyddwn ni’n gobeithio gallu adeiladu ar hynny yn erbyn Caerfaddon nos Wener.”

.

Tîm y Scarlets i wynebu Caerfaddon, Gwener 24ain Awst, CG 19:30;

15 Leigh Halfpenny*, 14 Tom Prydie*, 13 Jonathan Davies* ©, 12 Kieron Fonotia*, 11 Steff Evans*, 10 Rhys Patchell*, 9 Sam Hidalgo-Clyde*, 1 Rob Evans*, 2 Ryan Elias*, 3 Samson Lee*, 4 David Bulbring, 5 Steve Cummins, 6 Blade Thomson*, 7 James Davies*, 8 Uzair Cassiem*

Eilyddion; 16 Ken Owens*, 17 Phil Price, 18 Werner Kruger*, 19 Ed Kennedy, 20 Josh Macleod, 21 Kieran Hardy, 22 Dan Jones, 23 Clayton Blommetjies, 24 Tom Price, 25 Steff Hughes

*Chwaraewyr rhyngwladol