Y canolwr ifanc Macs Page sydd yn derbyn ei ddechreuad cyntaf yn Ewrop i’r Scarlets yng ngêm Cwpan Her EPCR ar nos Wener yn erbyn Gloucester yn Stadiwm Kingsholm (8pm Premier Sports).
Mae’r chwaraewr D20 Cymru yn un o chwe newid i’r ochr a gurwyd y Dreigiau ar Ddydd Calan.
Gyda Tom Rogers wedi’i anafu, Ioan Lloyd sydd yn dod i mewn i safle’r cefnwr. Blair Murray ac Ellis Mee sydd yn parhau fel asgellwyr.
Page sydd yn cyfuno ag Eddie James mewn partneriaeth ifanc yng nghanol cae. Joe Roberts sydd ar y fainc, gyda Johnny Williams yn absennol o ganlyniad i anaf i’w droed.
Talent ifanc arall sydd wedi datblygu yn y rhanbarth Archie Hughes sydd yn cychwyn fel ein mewnwr, gan gydweithio gyda’r maswr rhyngwladol Sam Costelow.
Oed cyfartalog yr olwyr yw llai na 22, gyda Costelow yn ‘hen ben’ wrth iddo droi’n 24 ar ddydd Gwener.
Yn y rheng flaen, Kemsley Mathias sydd nôl yn safle’r prop pen rhydd ac yn ymuno â Marnus van der Merwe a Henry Thomas.
Y cyn clo i Gaerloyw Alex Craig a Max Douglas sydd yn yr ail reng, tra yn y rheng ôl, chwaraewr rhyngwladol Tonga Vaea Fifita sydd yn dychwelyd i grys rhif wyth gyda Taine Plumtree yn newid i flaenasgellwr. Josh Macleod fydd yn gapten ar y tîm.
Mae’r fainc yn cynnwys y prop pen tynn Gabe Hawley, a fydd yn paratoi am ei ymddangosiad cyntaf yn y twrnamaint.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae gan y Scarlets hanes cyffrous yn gystadleuaeth Ewropeaidd felly pryd bynnag mae’r amser hyn yn dod mae’n gyfnod cyffrous i ni ac ein cefnogwyr.
“Mae Kingsholm yn le arbennig i chwarae, mae’r awyrgylch yna yn wych a bydd y gefnogaeth bydd gyda ni hefyd yn chwarae rhan fawr. Bydd hyn yn brofiad da, yn enwedig i’r chwaraewyr ifanc yn y garfan ac yn gyfle cyffrous i ni fel grŵp. I ni wedi bod yn gystadleuol eleni, ond mae teithio i rywle fel Kingsholm lle mae Caerloyw wedi perfformio’n dda yn ddiweddar yn fesur da i ni.
Ychwanegodd Peel: “Mae ein grŵp yn Ewrop yn gystadleuol dros ben, felly mae casglu pwyntiau yn bwysig, yn enwedig oddi cartref, fel bob tro yn Ewrop.”
Tîm y Scarlets i chwarae Caerloyw yn Stadiwm Kingsholm ar ddydd Gwener, Ionawr 10 (8yh; Premier Sports)
15 Ioan Lloyd; 14 Ellis Mee, 13 Macs Page, 12 Eddie James, 11 Blair Murray; 10 Sam Costelow, 9 Archie Hughes; 1 Kemsley Mathias, 2 Marnus van der Merwe, 3 Henry Thomas, 4 Alex Craig, 5 Max Douglas, 6 Taine Plumtree, 7 Josh Macleod (capt), 8 Vaea Fifita
Eilyddion: 16 Shaun Evans, 17 Alec Hepburn, 18 Gabe Hawley, 19 Sam Lousi, 20 Jarrod Taylor, 21 Gareth Davies, 22 Joe Roberts, 23 Ioan Nicholas.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Tom Rogers, Johnny Williams, Ben Williams, Sam Wainwright, Dan Davis, Ryan Elias, Tomi Lewis, Harri O’Connor, Josh Morse.