Scarlets yn enwi’r ochr i wynebu Connacht

Gwenan Newyddion

Mae’r Scarlets wedi enwi ei XV i ddechrau yn erbyn Connacht yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT sy’n dangos tri newid ar gyfer y gêm yn stadiwm The Sportsground ar nos Wener (19:35; BBC & Premier Sports).

Y blaenasgellwr Dan Thomas, sydd wedi ein ymuno ar gytundeb byrdymor o Bristol Bears, sydd wedi’i enwi yng nghrys rhif 7, wrth i Steff Evans a Steff Thomas dychwelyd i’r tîm cychwynol.

Mae Scott Williams a Wyn Jones ddim ar gael ar gyfer y gêm oherwydd anafiadau, wrth i Sam Lousi gael ei wahardd yn dilyn cerdyn coch yn erbyn Zebre.

Leigh Halfpenny, Johnny McNicholl a Ryan Conbeer sydd wedi’u henwi yn y tri ôl eto.

Yng nghanol cae bydd Steff Evans yn ymuno â’r capten Jonathan Davies, wrth i Sam Costelow a Kieran Hardy parhau fel ein haneri.

Yn y rheng flaen, mae Steff Thomas yn eilyddio Wyn Jones, sydd wedi derbyn anaf i’w benglin yn erbyn Zebre, ac yn ymuno â Ken Owens a Harri O’Connor. Bydd Jac Price a Tom Price yn parhau yn yr ail reng, wrth i Thomas – a ddechreuodd ei yrfa yn Academi y Scarlets – gael ei enwi ar yr ochr agored, sy’n golygu i Josh Macleod symud i flaenasgell ochr dywyll. Sione Kalamafoni sy’n parhau fel wythwr.

Pedwar newid sydd ymysg yr eilyddion wrth i’r props Kemsley Mathias a WillGriff John dod i’r fainc i’r rheng flaen, gyda Iwan Shenton yn paratoi am ei ymddangosiad URC cyntaf. Mae Corey Baldwin wedi gwella o’i anaf ac ar gael fel eilydd i’r tri ôl.

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae yn her fawr o’n blaenau. Mae Connact wedi dangos eu bod nhw’n gweithio’n galed yn erbyn Munster a Leinster. Mi fydd hi’n her gorfforol i ni. Bydd rhaid i ni baratoi am hynny a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd. Mae agweddau craidd y gêm mor bwysig ac mi fydd hi’n her i ni i gadw golwg ar hynny. Os allwn ni cadw ar ben yr agweddau craidd bydd siawns i ni ennill.”

Tîm Scarlets i chwarae Connacht yn The Sportsground ar Ddydd Gwener, Hydref 21 (19:35; BBC & Premier Sports)

15 Leigh Halfpenny; 14 Johnny McNicholl, 13 Steff Evans, 12 Jonathan Davies (capt), 11 Ryan Conbeer; 10 Sam Costelow, 9 Kieran Hardy; 1 Steff Thomas, 2 Ken Owens, 3 Harri O’Connor 4 Jac Price, 5 Tom Price, 6 Josh Macleod, 7 Dan Thomas, 8 Sione Kalamafoni.

Eilyddion: 16 Ryan Elias, 17 Kemsley Mathias, 18 WillGriff John, 19 Morgan Jones, 20 Iwan Shenton, 21 Dane Blacker, 22 Rhys Patchell, 23 Corey Baldwin.

Ddim ar gael

Sam Lousi, Vaea Fifita, Wyn Jones, Scott Williams, Blade Thomson, Johnny Williams, Ioan Nicholas, Tomás Lezana, Tom Rogers, Aaron Shingler, Dan Davis, Phil Price, Lewis Rawlins, Joe Roberts, Carwyn Tuipulotu, Callum Williams, Samson Lee, Griff Evans.