Scott Williams fydd yn arwain y tîm i mewn i gêm Ionawr y 1af yn erbyn y Gweilch (17:15 S4C, Premier Sports).
Mae Williams yn gapten ar ochr sydd yn dangos tri newid o’r XV a gafodd eu henwi i chwarae Rygbi Caerdydd ar Ddydd San Steffan.
Tu ôl i’r sgrym, Liam Williams, Johnny McNicholl a Steff Evans sydd yn creu cyfuniad egniol yn y tri ôl; Steff Hughes sydd yng nghanol cae gyda Scott Williams, wrth i Dan Jones a Gareth Davies cyfuno fel haneri.
Y chwaraewr 21 oed Harri O’Connor, a oedd i fod gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y URC oddi’r fainc yn erbyn Caerdydd, sydd yn dechrau fel prop yn erbyn y Gweilch ac yn ymuno â’r chwaraewyr rhyngwladol Rob Evans a Ryan Elias yn y rheng flaen.
Sam Lousi sy’n ymuno â Tom Price fel clo, tra bod Blade Thomson, Sione Kalamafoni a Josh Macleod wedi’u henwi eto yn y rheng ôl.
Mae yna sawl newid ymysg yr eilyddion. Mae WillGriff John wedi gwella o anaf i’w bigwrn, Daf Hughes a Steff Thomas sydd yn cael eu alw i mewn ar y fainc i’r rheng flaen, wrth i Tom Rogers dychwelyd i’r 23. Bydd Tomas Lezana yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ym Mharc y Scarlets os yw’n dod oddi’r fainc.
Scarlets v Gweilch (Dydd Sadwrn, Ionawr 1; 17:15 S4C. Premier Sports)
15 Liam Williams; 14 Johnny McNicholl, 13 Steff Hughes, 12 Scott Williams (capt), 11 Steff Evans; 10 Dan Jones, 9 Gareth Davies; 1 Rob Evans, 2 Ryan Elias, 3 Harri O’Connor, 4 Sam Lousi, 5 Tom Price, 6 Blade Thomson, 7 Josh Macleod, 8 Sione Kalamafoni.
Eilyddion: 16 Daf Hughes, 17 Steff Thomas, 18 WillGriff John, 19 Aaron Shingler, 20 Tomas Lezana, 21 Kieran Hardy, 22 Rhys Patchell, 23 Tom Rogers.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Ken Owens (back), Dan Davis (pectoral muscle), Tom Phillips (knee), Josh Helps (Achilles), James Davies (concussion), Leigh Halfpenny (knee), Corey Baldwin (foot), Tomi Lewis (knee), Lewis Rawlins (concussion), Harri Williams (ankle), Johnny Williams (calf), Joe Roberts (knee), Tyler Morgan (calf), Sam Costelow (shoulder).