Scarlets yn enwi’r tîm i wynebu’r Warriors

Rob Lloyd Newyddion

Saith newid gan brif hyfforddwr Scarlets Dwayne Peel ar gyfer gêm Dydd Sadwrn yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Glasgow Warriors ym Mharc y Scarlets (17:15 Premier Sports).

Yn y tri ôl, wrth i Ioan Nicholas parhau i wella o anaf i’w llinyn y gar, mae Steff Evans yn dychwelyd i’r asgell gyda Tom Rogers yn newid i safle’r cefnwr.

Yng nghanol cae mae Scott Williams a Johnny McNicholl yn parhau’r bartneriaeth yng nghanol cae gyda Scott yn gapten ar yr ochr unwaith eto.

Rhys Patchell a Gareth Davies, sydd wedi dychwelyd o garfan Chwe Gwlad Cymru, sydd wedi’u henwi fel haneri.

Yn y pac, mae chwaraewr rhyngwladol yr Alban Javan Sebastian, a gafodd effaith oddi’r fainc yn erbyn Conacht y tro diwethaf mas, sydd yn ennill ei ddechreuad cyntaf o’r tymor fel prop pen tynn ac yn ymuno â Steff Thomas a Daf Hughes yn y rheng flaen.

Yn yr ail reng mae’r chwaraewr 21 oed Jac Price yn dod i mewn yn lle Morgan Jones ac yn ymuno â Sam Lousi.

Mae newidiadau i’r rheng ôl gyda Blade Thomson yn dychwelyd i ddechrau ar yr ochr dywyll. Dan Davis sydd wedi gwella o anaf i’w gyhyr pectoral ac yn cychwyn ar yr ochr agored gyda Sione Kalamafoni yn gwisgo crys yr wythwr eto.

Ar y fainc mae Kemsley Mathias a Sam Costelow sydd yn hefyd cynnwys blaenwyr profiadol Marc Jones, Samson Lee ac Aaron Shingler yn ogystal â’r chwaraewr rheng ôl ifanc Carwyn Tuipulotu, mewnwr Dane Blacker a’r canolwr Joe Roberts.

Mae pymtheg o’r garfan 23 dyn wedi dod trwy lwybr datblygu’r Scarlets.

Tîm Scarlets v Glasgow (Dydd Sadwrn, Mawrth 5; 17:15 Premier Sports)

15 Tom Rogers; 14 Steff Evans, 13 Johnny Williams, 12 Scott Williams (capt), 11 Ryan Conbeer; 10 Rhys Patchell, 9 Gareth Davies; 1 Steff Thomas, 2 Daf Hughes, 3 Javan Sebastian, 4 Sam Lousi, 5 Jac Price, 6 Blade Thomson, 7 Dan Davis, 8 Sione Kalamafoni.

Eilyddion: 16 Marc Jones, 17 Kemsley Mathias, 18 Samson Lee, 19 Aaron Shingler, 20 Carwyn Tuipulotu, 21 Dane Blacker, 22 Sam Costelow, 23 Joe Roberts.

Ddim ar gael oherwydd anaf

WillGriff John (back), Tomas Lezana (ankle), Rob Evans (knee), Josh Macleod (hamstring), Ken Owens (back), Tom Price (ankle), Tom Phillips (knee), James Davies (concussion), Leigh Halfpenny (knee), Lewis Rawlins (concussion), Ioan Nicholas (hamstring).

Ddim ar gael oherwydd dyletswydd rhyngwladol

Johnny McNicholl, Liam Williams, Jonathan Davies, Wyn Jones, Ryan Elias, Kieran Hardy.