Wrth i’r Nadolig agosáu, mae’r Scarlets yn cefnogi ymgyrch sydd yn hyrwyddo’r pwysigrwydd o brynu cig lleol yn ystod yr ŵyl.
Fel rhan o’r ymgyrch rydym wedi parnteri â Hybu Cig Cymru i ddangos pam ddylai bobl dewis i brynu cig oen, cig eidion a phorc yn lleol, gyda ffermwyr Cymreig yn fyd-enwog am eu cynnyrch o safon, olrhain a safonau lles anifeiliaid uchel.
Yn draddodiadol, mae siopau cigyddion wedi bod yn rhan bwysig o’r stryd fawr ar draws Cymru, gan ddarparu cynnyrch ffres, lleol a chynaliadwy. Yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn gynharach yn y flwyddyn, roedd nifer o ffermwyr a chigyddion wedi addasu i gyrraedd anghenion eu cwsmeriaid, gan gynnwys archebion i’r cartref a phartner gyda busnesau lleol eraill i gynnig gwahanol fathau o gynnyrch am y tro cyntaf.
Dywedodd Mr Richard Davies o Eric Davies & Son yn Farchnad Caerfyrddin: “Mae ein cig oen, cig eidion a phorc i gyd yn lleol ac o ffermydd a chynhyrchwyr lleol felly mae’r milltiroedd bwyd yn cael eu cadw i’r lleiafswm.
“Rydym yn hyderus bod ein cwsmeriaid yn hapus gyda’n cynnyrch – cynnyrch rhagorol a gwasanaeth rhagorol. Rydym yn caru beth ydyn yn ei gwneud a hoffwn i barhau ein gwaith yma. Er hyn, mae’r adegau ansicr yma yn ein pryderu ni, a siopau bach eraill, ffermwyr a chynhyrchwyr sydd yn gweithio’n galed i gadw’n gymuned i fynd. Rydym yn poeni ni fydd y gymuned yn parhau fel y mae ar hyn o bryd. Felly hoffwn yn fawr i weld mwy o bobl yn prynu’n lleol – credwch chi byth faint o effaith maent yn cael ar ein bywydau.”
Yn ystod yr adegau anodd yma mae cefnogi busnesau lleol yn holl bwysig, gydag ymchwil yn dangos mae pob punt sydd yn cael ei wario mewn busnes bach i ganolog, mae hyd at 70c yn cylchredi ôl i’r economi lleol.
Dywedodd Wyn Jones o’r Scarlets: “Rwy’n falch iawn i gefnogi’r ymgyrch yma. Dw i’n cydnabod y gwaith caled sydd yn mynd ymlaen tu ôl i’r llenni i wneud y cynnyrch yn unigryw. Ble a sut maent yn cael ei gynhyrchu sy’n bwysig, ac mae’n broses sydd yn cefnogi teuluoedd ffermio, busnesau a chymunedau bach.
“Mae cig o ansawdd da yn holl bwysig fel rhan o ddiet iach. Os all bawb cymryd rhan yn yr ymgyrch a siopa’n lleol, mae’n gam bositif i achub cymunedau ar draws Cymru ac i helpu ailadeiladu’r economi.”