Scarlets yn ymateb yn bositif yn erbyn Ulster

Menna Isaac Newyddion

Roedd y prif hyfforddwr Wayne Pivac yn bles gyda buddugoliaeth pwynt bonws ei dîm dros Uster ym Mharc y Scarlets nos Wener, buddugoliaeth a sicrhaodd bod y rhanbarth yn symud yn ôl i’r ail safle yn Adran B.

Dioddefodd y Scarlets golled drom yn erbyn Caeredin yn y rownd diwethaf ac roedd yn bosib y byddai’r tîm wedi syrthio tu hwnt i’r tri ar y brig heb ganlyniad positif yn erbyn Ulster nos Wener.

Gwelwyd perfformiad llawer gwell fodd bynnag gan y tîm, oedd yn dal heb y chwaraewyr rhyngwladol, gan sgori tri chais yn yr hanner cyntaf i gael gafael ar y gêm erbyn y chwiban hanner amser.

Gyda chais arall yn yr ail hanner roedd y pwynt bonws yn ddiogel ac ymdrech amddiffynol arwrol ar y cyfan yn ddigon i gadw Ulster rhag sicrhau pwynt bonws.

Wrth ymateb i’r fuddugoliaeth ar ôl y gêm dywedodd Pivac; “Yn dilyn perfformiad Caeredin bu’n rhaid i ni wneud bach o waith yn edrych ar ein hunain. Doedden ni ddim yn hapus gyda’r perfformiad yna ac roedd y gêm yma yn bwysig iawn yn nhermau’r Adran. Fe fyddai wedi bod yn bosib i ni fynd tu allan i’r tri uchaf erbyn diwedd y penwythnos. Roedd yna lawer i ni chwarae amdano.

“Fe wnaeth y bois ddigon yn yr hanner cyntaf i baratoi’r ffordd ar gyfer y fuddugoliaeth gyda thri chais. Roedd angen i ni gadw adeiladu’r pwysau yn yr ail hanner a’i gorfodi nhw i wneud camgymeriadau. Roedd yn llawer gwell na’r hyn welwyd yn erbyn Caeredin.

“Mae’r grwp yma wedi bod gyda’i gilydd am dri gêm nawr, mae’n dymor bach iddyn nhw mewn gwirionedd, ac fe lwyddodd rhai ohonyn nhw i rhoi pwysau ar y bois mawr heno. Dyna be sydd angen, pwysau ar ein penderfyniadau ni wrth ddewis y tîm.”

Aeth ymlaen i ddweud; “Fe wnaethon ni ail adrodd yn yr ystafell newid ar ôl y gêm nad oedden ni eisiau ail adrodd y perfformiad yn y rownd diwethaf. Mae’n rhaid i bawb gamu i’r llwyfan wrth dynnu’r crys ymlaen, roedd yn llawer gwell heno.”

Fe fydd y Scarlets yn teithio i Glasgow penwythnos nesaf i wynebu Glasgow cyn dychwelyd i Barc y Scarlets ar nos Wener 7fed Rhagfyr i wynebu Ulster, tro yma yn nhrydydd rownd CWpan Pencampwyr Ewrop.

Mae tocynnau ar gael nawr; tickets.scarlets.wales