Bydd Scott Williams yn gwneud ei 150fed ymddangosiad i’r Scarlets gyda Johnny McNicholl yn gwneud ei 100fed penwythnos yma wrth i’r Scarlets wynebu Rygbi Caerdydd ym Mharc y Scarlets yn Rownd 15 o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig (19:35; Premier Sports).
Gwnaeth Williams ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets yn 2009, wrth i McNicholl cyrraedd ei 1100fed chwe mlynedd ar ôl ymuno’r clwb o’r Crusaders.
Mae’r ddau wedi’u henwi yn y tîm i ddechrau sydd yn dangos pedwar newid o’r tîm a wynebodd Zebre penwythnos diwethaf.
Yn y tri ôl, mae Tom Rogers yn dychwelyd ac yn cymryd lle Corey Baldwin ar yr asgell, tra bod Johnny Williams yn dod nôl i ymuno â’r capten Scott Williams yng nghanol cae.
Sam Costelow sy’n dod i mewn fel maswr i fod yn bartner i Gareth Davies sydd wedi’i enwi fel mewnwr.
Yn y pac, mae ond un newid gyda Steff Thomas yn dod i mewn yn lle Kemsley Mathias fel prop pen rhydd. Yn ymuno ag ef yn y rheng flaen mae Shaun Evans a Javan Sebastian.
Sam Lousi a Jac Price ydy’r ddau glo, wrth i Blade Thomson, Sione Kalamafoni a Tomas Lezana strwythuro’r rheng ôl.
Mae tri o’r chwaraewyr rhyngwladol yn dychwelyd ar gyfer y fainc – y bachwr Ryan Elias, prop Wyn Jones a’r canolwr Jonathan Davies.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Gennym pum gêm darbi yn dod lan ac yn wrth fod yn realistig, bydd angen i ni ennill y mwyafrif os ydyn am herio am le yn y wyth uchaf, mae yna gyfle i gymhwyso ar gyfer Ewrop sydd yn rhywbeth rydym yn edrych ar hefyd.
“Mae natur y gemau yma yn erbyn Caerdydd yn sialens yn eu hun. Mi fydd hi’n wahanol iawn, ond yn dda, ac mae’r bois yn edrych ymlaen. Mae cael bois Cymru nôl wythnos yma’n grêt, mae pawb wedi bod yn bositif iawn ac yn edrych ymlaen at y gemau sydd i ddod yn erbyn y timau rhanbarthol.”
Scarlets v Rygbi Caerdydd (Dydd Sadwrn, Ebrill 2; 19:35 Premier Sports)
15 Johnny McNicholl; 14 Tom Rogers, 13 Johnny Williams, 12 Scott Williams (capt), 11 Ryan Conbeer; 10 Sam Costelow, 9 Gareth Davies; 1 Steff Thomas, 2 Shaun Evans, 3 Javan Sebastian, 4 Sam Lousi, 5 Jac Price, 6 Blade Thomson, 7 Tomas Lezana, 8 Sione Kalamafoni.
Eilyddion: 16 Ryan Elias, 17 Wyn Jones, 18 Harri O’Connor, 19 Morgan Jones, 20 Carwyn Tuipulotu, 21 Dane Blacker, 22 Dan Jones, 23 Jonathan Davies.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Samson Lee (Achilles), Daf Hughes (shoulder), Aaron Shingler (knee), Marc Jones (calf), Josh Macleod (hamstring), Ken Owens (back), Tom Price (ankle), Tom Phillips (knee), James Davies (concussion), Leigh Halfpenny (knee), Lewis Rawlins (concussion), Josh Helps (ankle).