Scott Williams nôl gyda’r Scarlets!

Gwenan Newyddion

Bydd Scott Williams yn dychwelyd i’r Scarlets ar ôl arwyddo cytundeb newydd gyda’i glwb cartref.

Ar ôl dod trwy system yr Academi, gwnaeth Scott ei ymddangosiad cyntaf yn ystod gêm gyfeillgar yn erbyn Castell Nedd yn 2008 ac aeth ymlaen i chwarae 137 o gemau ar hyd naw tymor, gan sgori 23 o geisiau.

Chwaraeodd rhan bwysig yn nhîm y Scarlets a wnaeth ennill teitl y Guinness PRO12 yn 2017 ac wedi sgori ceisiau allweddol i gynorthwyo cyrraedd y rownd gynderfynol o Gwpan Pencampwyr yn hwyrach yn y flwyddyn.

Mae Scott wedi ennill 58 o gapiau i’w wlad, gan ymddangos yng Nghwpan y Byd 2011 a 2015 a chais unigol cofiadwy yn Twickenham wnaeth helpu Cymru i gipio’r Cwpan Triphlyg yn 2012.

Mae’n dychwelyd i’r Scarlets yn dilyn tri tymor gyda’r Gweilch.

“Mae gen i sawl atgof melys o chwarae gyda’r Scarlets, dyma fy nghlwb cartref ac mae gen i lawer o ffrindiau da yna,” dywedodd.

“Dwi’n edrych ymlaen at weithio o dan arweiniaeth Dwayne a’r tîm hyfforddi a chystadlu am le yn y tîm o flaen dechreuad yr ymgyrch newydd.

“Mae gan y Scarlets sawl canolwr gwych ac mae’r gystadleuaeth yn gryf yna, ond dwi’n ysu i fynd allan a methu aros i wisgo’r crys Scarlet eto.”

Dywedodd rheolwr cyffredinol y Scarlets Jon Daniels: “Rydym wrth ein bodd i groesawu Scott nôl i Barc y Scarlets.

“Ar ôl delio â sawl anaf dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n iach ac yn ffit ac yn barod i fynd.

“Mae ganddo llawer o brofiad ar lefel rhyngwladol ac mae hynny, gyda’i sgiliau arweinydd, o fudd enfawr i’r grŵp yma.

“Mae Scott wedi profi ei hun trwy gydol ei yrfa. Mae’n gymeriad cryf a benderfynol, rhywun all y bois edmygu ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at ei weld nôl yng nghrys y Scarlets.”